Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cyfrifon Adnoddau 2009 - 10
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff
sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i
gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl,
i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn
Llywodraeth Cymru i gyfrif.
www.cynulliadcymru.org
gwybodaeth@cynulliadcymru.org
archebu@cynulliadcymru.org
Ff 0845 010 5500
Cymerwch ran ar Facebook, YouTube, Twitter a Flickr.
© Hawlfraint Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2010
Ceir atgynhyrchu testun y ddogfen hon am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled ag y caiff ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol na difrïol. Rhaid cydnabod mai Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n berchen ar hawlfraint y deunydd a rhaid nodi teitl y ddogfen.
Cynnwys
Sylwadau Rheoli 04
Adroddiad Taliadau 11
Datganiad o Gyfrifoldebau’r Comisiwn a’r Swyddog Cyfrifyddu 17
Datganiad Rheoli Mewnol 18
Tystysgrif ac Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru 25
Datganiad Cyflenwad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27
Datganiad Costau Gweithredu 28
Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol 29
Datganiad Llif Arian 30
Datganiad o’r Newidiadau yn Ecwiti’r Trethdalwyr 31
Datganiad Costau Gweithredu’n ôl Nodau ac Amcanion 32
Nodiadau i gyd-fynd â’r Cyfrifon Adnoddau 33
Sylwadau Rheoli
Paratowyd y cyfrifon hyn yn unol â Chyfarwyddyd y Trysorlys a gyhoeddwyd o dan Adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae’n rhaid i’r datganiadau cyfrifyddu a gyflwynir gydymffurfio â fformat penodol a bennir gan y Trysorlys a pharatowyd nodiadau esboniadol i gyd-fynd â nhw. Yn ogystal â’r datganiadau ariannol manwl o dudalen 27 ymlaen, gall y wybodaeth a ganlyn fod o ddiddordeb arbennig:
- tâl deiliaid swyddi’r Cynulliad ac uwch staff (tudalen 11);
- y trefniadau sydd ar gael i helpu i ddiogelu cronfeydd ac asedau cyhoeddus Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Comisiwn”) ac i gyflawni’i nodau a’i amcanion (tudalen 32);
- cymharu’r gwir wariant â’r cyllidebau ar gyfer y flwyddyn (tudalen 38);
- cyflog a chostau cysylltiedig Aelodau’r Cynulliad, staff y Cynulliad a’r nifer a gyflogir gan Gomisiwn y Cynulliad (tudalen 41);
- costau lwfansau teithio a lwfansau eraill yr Aelodau (tudalen 45); a
- cholledion a thaliadau arbennig (tudalen 54).
Mae’r cyfrifon hyn yn gosod allan effaith ariannol penderfyniadau’r Comisiwn yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol a’r blynyddoedd ariannol blaenorol. I gael gwell dealltwriaeth o’r hyn y mae’r Comisiwn wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn, ewch i’r Adroddiad Blynyddol sy’n rhoi rhagor o fanylion ac a gyhoeddir ochr yn ochr â’r cyfrifon hyn. Mae gwybodaeth am y Cynulliad a’r Comisiwn hefyd ar gael ar wefan y Cynulliad www.assemblywales.org a www.cynulliadcymru.org.
Hanes, cefndir statudol a’r prif weithgareddau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) yw’r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Sefydlwyd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Comisiwn) ym mis Mai 2007 o dan Adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006) ac mae ganddo ddyletswydd i sicrhau bod y Cynulliad yn cael yr eiddo, y staff a’r gwasanaethu y mae eu hangen arno. Mae’r Comisiwn yn cynnwys pum Comisiynydd, sef y Llywydd, a phedwar Aelod arall o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a benodir gan y Cynulliad. Clerc y Cynulliad (a benodir o dan Adran 26 o Ddeddf 2006) yw Prif Weithredwr y Comisiwn a’r Swyddog Cyfrifyddu. Yn ymarferol, mae’r Comisiwn wedi dirprwyo’i gyfrifoldebau o ddydd i ddydd i’r Prif Weithredwr a’r Clerc, gyda rhai eithriadau. Cyfeirir at ei staff, a benodir o dan baragraff 3 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006, fel staff y Cynulliad. Mae’r Comisiwn yn annibynnol ar Weinidogion Llywodraeth Cymru (“Gweinidogion Cymru”).
Mae’r Comisiwn yn darparu seilwaith (gan gynnwys y Senedd a Thŷ Hywel, swyddfeydd y Cynulliad) a’r cyflogau a’r lwfansau sy’n galluogi’r Aelodau i ymgymryd â’u dyletswyddau yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd ac yn eu swyddfeydd lleol. Mae’n darparu cyfleusterau a staff i ganiatáu i’r Cynulliad a’i bwyllgorau gyfarfod ac mae’n codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r broses ddemocrataidd ac yn ennyn eu diddordeb yn y broses honno. Diben y Comisiwn yw sicrhau bod y Cynulliad yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ennyn hyder pobl Cymru. I ategu hyn, mae’r Strategaeth ar gyfer y Trydydd Cynulliad 2007-2011 yn llywio gwaith y Comisiwn er mwyn ei helpu i gyflawni’r amcanion a ganlyn:
- hyrwyddo datganoli ac annog rhagor o bobl i gymryd rhan yn y broses;
- dangos undod, arweinyddiaeth ac ymateb yn feiddgar i newidiadau cyfansoddiadol;
- dangos parch, cywirdeb a sgiliau llywodraethu da ym mhob agwedd ar ein gwaith;
- gweithio’n gynaliadwy;
- sicrhau bod y Cynulliad yn darparu’r gwasanaeth gorau ac y caiff ei ddarparu ei ddarparu yn y modd mwyaf effeithiol.
Comisiwn y Cynulliad
Dyma’r Comisiynwyr yn ystod 2009-10 : |
Penodwyd |
Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Elis-Thomas AC, y Llywydd |
9 Mai 2007 |
William Graham AC |
6 Mehefin 2007 |
Lorraine Barrett AC |
6 Mehefin 2007 |
Peter Black AC |
6 Mehefin 2007 |
Christopher Franks AC |
18 Medi 2007 |
Mae’r Comisiwn wedi cytuno ar drefniadau portffolio sy’n golygu bod gan y Comisiynwyr gyfrifoldeb dros faterion penodol, fel a ganlyn:
Yr Arglwydd Elis-Thomas AC – Cadeirydd y Comisiwn - cyfrifoldeb arbennig dros annog pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, arweinyddiaeth ragorol, datblygu pwerau deddfu’r Cynulliad yn y dyfodol a chysylltiadau allanol.
Lorraine Barrett AC– Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy – mae’r portffolio’n hwn yn cynnwys cyfrifoldeb dros gydraddoldeb; iaith; yr amgylchedd a niwtraliaeth carbon; caffael cynaliadwy a rheoli’r ystâd.
Peter Black AC – Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd – mae’r portffolio hwn yn cynnwys ystyried safon y broses craffu a deddfu; cyfathrebu allanol; TGCh; addysg ym maes dinasyddiaeth; materion cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth.
Christopher Franks AC - Comisiynydd y Cynulliad syn Gwella - mae’r portffolio hwn yn cynnwys ystyried gwella gwasanaethau i’r Aelodau ac i ddinasyddion; cynnwys rhanddeiliaid; cynllunio strategol; ac ystyried gwerth am arian.
William Graham AC – Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad – mae’r portffolio hwn yn cynnwys ystyried sut y caiff asedau’r Cynulliad eu rheoli; pobl y Cynulliad (gan gynnwys staff, contractwyr, gwasanaethau a ddarperir i gynorthwyo Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad); cyllideb y Comisiwn; cyflogau a lwfansau’r Aelodau; effeithlonrwydd a llywodraethu da.
Cynghorwyr Annibynnol
Penododd y Comisiwn y pedwar cynghorydd annibynnol a ganlyn, pob un am gyfnod o 3 blynedd, gan ddechrau ar 5 Tachwedd 2007:
Mair Barnes |
Tim Knighton |
Richard Calvert |
Yr Athro Robert Pickard |
Cewch ragor o wybodaeth am y cynghorwyr annibynnol ar wefan y Cynulliad.
Uwch reolwyr a staff y Cynulliad
Dyma’r uwch reolwyr a gyflogwyd gan y Comisiwn drwy gydol y flwyddyn tan y dyddiad y llofnodwyd y cyfrifon:
Claire Clancy |
Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Y Swyddog Cyfrifyddu |
Dianne Bevan |
Y Swyddog Gweithredu |
Adrian Crompton |
Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad |
Keith Bush |
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol |
Mae’r Adroddiad Taliadau yn y cyfrifon hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyflogau a hawliau pensiwn yr unigolion a enwir a’r costau teithio a chynhaliaeth a hawliwyd ganddynt am y flwyddyn.
Caiff yr uwch reolwyr eu penodi i’w swyddi’n barhaol.
Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, dyma faint o staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd gan y Comisiwn:
|
31 Mawrth 2010 |
|
31 Mawrth 2009 |
|
|
|
|
Staff a gyflogwyd |
362.4 |
|
341.9 |
Staff ar secondiad |
2.8 |
|
4.4 |
Y gyfradd absenoldeb gyffredinol oherwydd salwch am y flwyddyn oedd 3.23% (4.2% 2008-09) o’i gymharu â’r targed diwygiedig o 3.18% am y flwyddyn (sy’n cyfateb i 7 diwrnod). Caiff performiad y Comisiwn o ran lleihau absenoldeb oherwydd salwch ei gyhoeddi yng nghylchlythyr Swyddfa Archwilio Cymru, sef Cyfnewidfa Arfer Da.
Adolygiad o’r Flwyddyn Ariannol
Mae’r Comisiwn yn gweithredu’n awr ers tair blynedd ac mae’n parhau i ddatblygu ac i gyflawni wrth iddo gynnig cymorth i’r Cynulliad, fel y nodwyd yn yr Adroddiad Blynyddol, a dynnodd sylw at y canlynol:
Bu’r Cynulliad yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed drwy drefnu rhaglen o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru, dan arweiniad y Llywydd. Cyflwynwyd Bws y Cynulliad fel dull newydd i’r Cynulliad gysylltu â phobl Cymru. Ar 1 Mawrth 2010, ail-agorodd y Pierhead yn dilyn rhaglen ailwampio sylweddol gan greu atyniad eiconig i ymwelwyr gerllaw’r Senedd ym Mae Caerdydd.
Daeth treuliau’r Aelodau o dan y chwyddwydr yn ystod y flwyddyn oherwydd digwyddiadau mewn mannau eraill yn y DU. Cyhoeddwyd adroddiad y panel annibynnol a benodwyd gan y Comisiwn yn 2008, sef ‘Yn Gywir i Gymru’, ym mis Gorffennaf 2009. Roedd yn cynnwys 108 o argymhellion i sefydlu trefniadau gwell i’r Aelodau sy’n ddarbodus, yn deg, yn effeithiol ac yn dryloyw. Derbyniodd y Comisiwn yr holl argymhellion ac yn ystod 2009-10 cafodd 47 ohonynt eu rhoi ar waith, ac mae gwaith ar y gweill mewn perthynas â’r gweddill. Un o’r prif argymhellion oedd y dylid creu Bwrdd Taliadau Annibynnol i bennu cyflogau a lwfansau’r Aelodau yn y dyfodol, sef un o argymhellion allweddol yr adroddiad. Pasiwyd y Mesur ym mis Mai 2010; caiff y Bwrdd ei sefydlu erbyn hydref 2010.
Er mwyn hybu didwylledd a thryloywder ymhellach, yn ystod y flwyddyn, penderfynodd y Comisiwn gyhoeddi’r treuliau a gaiff eu hawlio gan yr Aelodau ar-lein bob yn ail fis.
Mae’r Gofrestr o Fuddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill Aelodau’r Cynulliad yn parhau i gael ei diweddaru a’i chyhoeddi ar wefan y Cynulliad.
Cyflwynwyd mesur i greu Comisiynydd Safonau i oruchwylio safonau ymddygiad yr Aelodau. Cafodd y Mesur comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 gydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr 2009.
Cefnogwyd rhaglen ddeddfu lawn drwy gydol y flwyddyn. Oherwydd yr holl waith, bu’n rhain agor pedwaredd ystafell bwyllgora er mwyn medru cynnal holl fusnes y Cynulliad. Cyflwynodd y Comisiwn brosiect sylweddol (Uno) i greu rhwydwaith technoleg gwybodaeth unedig i Aelodau a staff y Cynulliad, ar wahân i rwydwaith Llywodraeth Cymru, a fydd â manteision hirdymor o ran rheoli gwybodaeth, ymgysylltu â’r cyhoedd, caffael Technoleg Gwybodaeth a gwella parhad busnes. Roedd y prosiect hwn yn dal yn mynd rhagddo ar ddiwedd y flwyddyn. Sefydlwyd Rhaglen Newid newydd i roi darlun cyffredinol o’r gwaith sy’n mynd rhagddo ac er mwyn rhoi mwy o ffocws ar y newidiadau unigol sy’n digwydd yn y Cynulliad a mwy o reolaeth dros y broses.
Cyflwynodd y Comisiwn Gynllun Rheoli Carbon er mwyn sicrhau niwtraliaeth carbon erbyn 2015; cafwyd sicrwydd sylweddol gan yr archwilwyr ar ei reolaeth ariannol allweddol a’i reolaeth gyllidebol; yn ôl Mynegai Stonewall, y Comisiwn oedd yn safle 47 yn y rhestr o gyflogwyr gorau a llwyddodd i fabwysiadu’r gofynion cyfrifyddu newydd o dan y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol.
Perfformiad ariannol yn ystod y flwyddyn
Arian o Gronfa Gyfunol Cymru a ddefnyddir ar gyfer gwariant y Comisiwn. Alldro adnoddau net 2009-10 oedd £48.9 miliwn (£44.5 miliwn yn 2008-09).
Gwariwyd £12.6 miliwn (£12.4 miliwn yn 2008-09) ar gyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad gan gynnwys lwfansau ar gyfer staff ac adeiladau yn eu hetholaethau/hardaloedd i’w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau. £13.9 miliwn (£12.2 miliwn yn 2008-09); oedd cost cyflogi staff y Comisiwn a chostau cysylltiedig; gwariwyd £18miliwn (£19.8 miliwn yn 2008-09) ar adeiladau, TGCh a chostau eraill yn ymwneud â rhedeg y Comisiwn; cafwyd £0.1miliwn o incwm ar ffurf rhent a drwy werthu nwyddau yn Siop y Cynulliad (£0.1 miliwn yn 2008-09). O fewn y costau TGCh, mae gwariant o £2.9 miliwn am brosiet UNO mawr y Comisiwn. Cyflwynodd y Comisiwn Gyllideb Atodol o £1.95 miliwn yn ystod y flwyddyn i dalu am y rhan fwyaf o’r costau. Cymeradwywyd y gyllideb hon ar 20 Hydref 2009.
Nid yw’r uchod yn cynnwys costau’n ymwneud â chyflog y Llywydd, y Dirprwy Lywydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru na’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Y Comisiwn sy’n talu’r cyflogau hyn ond cânt eu talu’n uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru. Gan hynny, nid ydynt yn cael eu cynnwys yn yr alldro adnoddau net. Cyfanswm y costau hyn yn 2009-10 oedd £0.636 miliwn (£0.635 miliwn yn 2008-09).
Roedd yr alldro terfynol net o fewn £0.85 miliwn (1.7%) i’r gyllideb adnoddau net a gymeradwywyd, sef £49.7 miliwn am y flwyddyn (tanwariant o £2.1 miliwn/3.7% yn 2008-09). Gellir priodoli 40% o’r tanwariant i’r ffaith bod llai wedi’i wario na’r disgwyl ar gyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad. Cododd balans tanwariant 2009-10 drwy gyfuniad o arbedion a wnaed drwy ddarparu gwasanaethau’n fwy effeithlon a drwy leihau gwariant ar weinyddu cyllidebau sy’n ymateb i’r galw. Mae rhagor o wybodaeth am yr alldro anoddau yn Nodyn 3 sy’n cyd-fynd â’r cyfrifon ac mae cyllideb y Comisiwn i’w gweld ar wefan y Cynulliad.
Ar 31 Mawrth 2010, £60.4 miliwn oedd asedau net y Comsiwn (£62.7 miliwn ar 31 Mawrth 2009).
Datblygiadau yn y dyfodol
Mae’n glir y bydd llai o arian ar gael yn y sector cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd nesaf. C orff corfforaethol cymharol newydd yw’r Comisiwn ac mae’n parhau i ddatblygu, ac mae’n rhaid iddo dyfu yn ystod y tair blynedd cyntaf er mwyn sefydlu seiliau cadarn a fydd yn ei alluogi i gyflawni’i flaenoriaethau yn y dyfodol. Rhaid iddo gyflawni’i ddyletswyddau statudol gan hefyd sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n briodol. Yn ystod y flwyddyn nesaf, gwneir bob ymdrech i sicrhau arbedion effeithlonrwydd, i leihau gwariant ac i baratoi cyllidebau darbodus a phriodol ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
Mae darparu gwasanaethau i alluogi’r Cynulliad i ddeddfu a chraffu, ac i ymgymryd ag unrhyw fusnes arall, yn parhau’n flaenoriaeth. Mae’r gwaith o gynllunio ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad o fis Mai 2011 ymlaen yn mynd rhagddo ers tro i gynllunio ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad a’r cyfnod diddymu a fydd, am y tro cyntaf, yn ei ragflaenu. Mae’r Cynulliad wedi cychwyn y broses a fydd yn arwain at refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad ac mae disgwyl y caiff refferendwm ei gynnal erbyn mis Mai 2011.
Mae blaenoriaethau allweddol eraill y Comisiwn dros y blynyddoedd nesaf yn cynnwys: cwblhau’r rhwydwaith unedig; gweithredu argymhellion yr adolygiad annibynnol o’r gwasanaethau dwyieithog a ddarperir gan y Cynulliad, a gyhoeddodd ei adroddiad ym mis Mai 2010; gweithredu gweddill argymhellion 'Yn Gywir i Gymru’; datblygu’r Pierhead fel cyfleuster o’r radd flaenaf yn y Pierhead i gefnogi gwaith y Cynulliad; a bwrw ymlaen â rhaglenni newid i gynnal busnes y Cynulliad ac i ennyn diddordeb yn ei waith.
Mae pwyslais y Comisiwn ar berfformiad a chyflenwi’n creu sylfaen gadarn a fydd yn sicrhau y gall gyflawni’i flaenoriaethau er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol ar y sector gyhoeddus. Er mwyn cynllunio a dyrannu adnoddau’n fwy effeithiol, bydd y Comisiwn yn parhau i geisio sicrhau arbedion drwy weithio’n fwy effeithlon a drwy sicrhau gwerth am arian a bydd yn paratoi Strategaeth Cynllunio Adnoddau mwy hirdymor. Ochr yn ochr â’r trefniadau llywodraethu presennol, bydd y Comisiwn yn gwella dulliau rheoli mewnol a rheoli newid i sicrhau ei fod yn barod i wynebu anawsterau anochel y blynyddoedd nesaf.
Risgiau ac ansicrwydd
Mae’r Comisiwn yn gweithredu Fframwaith Rheoli Risg a Manteision i godi ymwybyddiaeth o risg, i reoli risgi yn briodol ac i fanteisio ar gyfleoedd i wella. Mae rhagor o wybodaeth yn y Datganiad Rheoli Mewnol Mewnol yn y cyfrifon hyn. Ni chafwyd unrhyw achosion o dorri amodau diogelwch data yn ystod 2009-10.
Cydymffurfio â’n Dyletswyddau
Rhaid i’r Comisiwn gyflawni’i ddyletswyddau’n unol â’r egwyddorion a ganlyn: cyfle cyfartal i bawb; hyrwyddo datblygu cynaliadwy; a thrin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr Adroddiad Blynyddol.
Dyfarnwyd Lefel 5 y Ddraig Werdd i’r Comisiwn am ei ddulliau rheoli amgylcheddol. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys yr Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol, ar gael ar wefan y Cynulliad.
Yn ystod 2009-10 comisiynodd y Comisiwn adolygiad annibynnol o wasanaethau dwyieithog y Cynulliad, a chyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Mai 2010. Mae ar gael ar wefan y Cynulliad.
Rhwymedigaethau Pensiwn
Mae’r modd y caiff rhwymedigaeth pensiwn eu trin a manylion y cynlluniau pensiwn perthnasol wedi’u gosod allan yn y Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu yn y cyfrifon hyn.
Polisi talu cyflenwyr
Targed perfformiad allweddol y Comisiwn ar gyfer 2009-10 oedd talu pob cyflenwr cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn anfonebau, os nad oedd anghydfod yn eu cylch. Ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn, talwyd 93% ohonynt cyn pen 10 diwrnod (98% ar gyfartaledd yn 2008-09 yn erbyn targed o 30 diwrnod).
Y Pwyllgor Archwilio
Mae gan y Comisiwn Bwyllgor Archwilio (sef y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol gynt) sy’n helpu’r Comisiwn a’r Swyddog Cyfrifyddu i fonitro ac i adolygu llywodraethu corfforaethol, rheoli risg a systemau rheoli. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys tri chynghorydd annibynnol (un o’r rhain fydd yn Cadeirio) ac un o Gomisiynwyr y Cynulliad. Yr aelodau yw Richard Calvert (Cadeirydd), William Graham AC, Tim Knighton a’r Athro Robert Pickard. Roedd gwaith y Pwyllgor yn ystod 2009-10 yn cynnwys ystyried ail gyfrifon blynyddol y Comisiwn (2008-09) a pharatoi i fabwysiadu Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol ar gyfer cyfrifon 2009-10; ystyried trefniadau i wella diogelwch gwybodaeth a chynllunio parhad busnes; gwaith a wnaed gan y Comisiwn wedi i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar gyllideb 2010-11; a, rhoi cyngor ynghylch sicrwydd sy’n cefnogi’r Datganiad Rheoli Mewnol. Mae Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i’r Comisiwn ar gael ar wefan y Cynulliad.
Y Pwyllgor Taliadau
Mae gan y Comisiwn Bwyllgor Taliadau i gynorthwyo’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr i sicrhau ein bod yn cyrraedd safonau uchaf o ran cywirdeb ac atebolrwydd yn ein defnydd o arian cyhoeddus ac, yn benodol, yn ein polisïau a’n systemau arfarnu a thaliadau. Aelodau’r Pwyllgor yw Tony Morgan (Cadeirydd Archwilio yn Geldards a chyn bartner yn PricewaterhouseCoopers cyn iddo ymddeol) yr Athro Robert Pickard, a Tim Knighton (dau o Gynghorwyr Annibynnol y Comisiwn). Yn ystod y flwyddyn, mae gwaith y Pwyllgor wedi cynnwys meincnodi ystod cyflog y graddfeydd uwch drwy eu cymharu â graddfeydd sefydliadau tebyg a rhoi sylwadau ar strategaeth talu a gwobrwyo staff y Cynulliad.
Archwilio’r cyfrifon
Archwilydd Cyffredinol Cymru sy’n archwilio’r cyfrifon yn unol ag Adran 137 o Ddeddf 2006. £61,400 yw’r gost y cytunwyd arni ar gyfer archwilio cyfrifon 2009-10 (£57,950 yn 2008-09).
Datgelu gwybodaeth archwilio berthnasol
Fel y Swyddog Cyfrifyddu, rwyf wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol ac i sicrhau bod yr archwilwyr hefyd yn ymwybodol o’r wybodaeth hon.
Digwyddiadau ers diwedd y cyfnod ariannol
Ni fu unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol rhwng diwedd y cyfnod ariannol a’r dyddiad y cwblhawyd y cyfrifon hyn.
Claire Clancy |
Dyddiad: 13 Gorffennaf 2010 |
Adroddiad Taliadau
Polisi taliadau
Sefydlodd y Comisiwn banel adolygu annibynnol ym mis Awst 2008 i ystyried pob agwedd ar y cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad; gan gynnwys cyflogau a lwfansau ar gyfer teithio, adeiladau, swyddfeydd etholaethol a staff cymorth.
Tan fis Ebrill 2009, roedd cyflog sylfaenol Aelodau’r Cynulliad wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â chyflog Aelodau Seneddol. Yn dilyn adroddiad y panel, 'Yn Gywir i Gymru', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2009, torrwyd y cysylltiad hwnnw a Bwrdd Taliadau annibynnol, a sefydlwyd mewn Mesur Cynulliad, sy’n awr yn penderfynu ar y cymorth ariannol a gaiff Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys eu cyflogau.
Y Bwrdd Taliadau fydd yn penderfynu ar gyflogau Aelodau’r Cynulliad yn y dyfodol a chaiff ei bennu ar ddechrau bob pedwar tymor gan ystyried chwyddiant a chaiff y cyflog ei addasu bob blwyddyn. Daeth yr adroddiad i’r casgliad hefyd fod y cyflogau ar 1 Ebrill 2009 yn briodol.
Cyflog sylfaenol blynyddol Aelodau’r Cynulliad, ac eithrio cyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, fel y’u pennwyd ar 1 Ebrill 2008, oedd £51,899 gan godi i £53,108 ar 1 Ebrill 2009. Dewisodd deg Aelod beidio â hawlio’u tâl llawn ar gyfer blwyddyn ariannol 2009-10 (naw Aelod yn 2008-09).
Gallai’r Aelodau a ganlyn hawlio cyflogau blynyddol ychwanegol:
|
O 1 Ebrill 2008 |
O 1 Ebrill 2009 |
O 2 Tachwedd 2009 |
Y Llywydd ac Arweinydd yr wrthblaid fwyaf |
£40,759 |
£41,370 |
£41,370 |
Y Dirprwy Lywydd |
£25,637 |
£26,022 |
£26,022 |
Prif Chwip yr wrthblaid a Chomisiynwyr y Cynulliad |
£11,372 |
£11,543 |
£12,000 |
Arweinydd y gwrthbleidiau heblaw am yr wrthblaid fwayf. Cadeiryddion y pwyllgorau craffu1 a’r Pwyllgorau Cyllid a Chyfrifon Cyhoeddus. |
£11,372 |
£11,543 |
£12,000 |
Cadeiryddion pwyllgorau eraill2 |
£5,950 |
£6,039 |
£8,000 |
Roedd y tabl hwn yn destun archwiliad
1 Dyma’r pwyllgorau craffu: Cymunedau a Diwylliant; Menter a Dysgu; Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol; Cynaliadwyedd; Materion Cyfansoddiadol; 5 Pwyllgor Deddfwriaeth.
2 Dyma’r pwyllgorau eraill: Plant a Phobl Ifanc; Cyfle Cyfartal; Materion Ewropeaidd ac Allanol; Deisebau; Safonau Ymddygiad.
O’r rhai a allai hawlio’r cyflogau ychwanegol, penderfynodd deg Aelod beidio â’u cymryd yn 2009-10 (dau wnaeth hynny yn 2008-09).
Nid yw’r Comisiwn yn rhoi buddion mewn nwyddau.
Mae Aelodau’r Cynulliad yn aelodau o Gynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chaiff cyfrifon blynyddol eu cyhoeddi ar wahân ar gyfer y Cynllun hwn ar wefan y Cynulliad.
Mae’r Comisiwn yn talu cyflogau a chostau cysylltiedig Gweinidogion Cymru a chaiff y rhain eu datgelu mewn nodyn yng Nghyfrifon Adnoddau Cyfunol Llywodraeth Cymru er bod y taliadau’n dod o Gronfa Gyfunol Cymru.
Penodwyd cynghorwyr annibynnol ar 5 Tachwedd 2007 am gyfnod o dair blynedd ac maent yn cael tâl amhensiynadwy o £5,000 y flwyddyn (£7,000 y flwyddyn i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio).
Y Comisiwn sy’n penderfynu ar dâl y Prif Weithredwr. Y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Comisiwn, sy’n penderfynu ar dâl y tri chyfarwyddwr. Mae Pwyllgor Taliadau, sy’n cynnwys tri aelod annibynnol, yn cynghori’r Prif Weithredwr a’r Comisiwn. Mae paragraff 3 o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn sicrhau bod amodau a thelerau staff y Cynulliad yn debyg i amodau a thelerau staff Llywodraeth Cymru. O 1 Ebrill 2008 ymlaen, wedi i’r Pwyllgor Taliadau drafod y cynnig ac ymgynghori/cytuno â’r Comisiwn, crëwyd graddfa gyflog unedig i’r holl staff a gyflogir gan y Comisiwn, gan gynnwys y Cyfarwyddwyr a’r Prif Weithredwr.
Cytundebau gwasanaeth
Penodir staff y Comisiwn, yn unol ag amodau a thelerau a bennir gan y Comisiwn, yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored ond maent hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer amgylchiadau lle ceir penodi heb ddilyn y drefn arferol. Mae’r egwyddorion hyn yn cyd-fynd â threfniadau’r gwasanaeth sifil. Nid yw staff yn aelodau o’r Gwasanaeth Sifil ond mae ganddynt hawl i fod yn aelodau o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS).
Oni nodir yn wahanol isod, mae staff y Cynulliad y mae’r adroddiad hwn yn berthnasol iddynt, yn cael eu penodi nes y byddant yn cyrraedd oedran pensiwn o dan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Yna cânt wneud cais i barhau i weithio’r tu hwnt i’r oedran honno. Os terfynir eu cyflogaeth yn gynnar am unrhyw reswm ac eithrio camymddygiad, bydd yr unigolyn yn cael iawndal, fel y nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.
Cyflogau a hawliadau pensiwn
Mae’r adran a ganlyn yn rhoi manylion am dâl a phensiynau deiliaid swyddi ac uwch swyddogion. Cânt eu cyflwyno yn ôl bandiau cyflog a phensiwn.
Mae gan Gomisiynwyr y Cynulliad, ac eithrio’r Llywydd, hawl i gyflog blynyddol o £11,543 yn ogystal â’u cyflogau fel Aelodau’r Cynulliad. Nid yw manylion eu pensiwn wedi’u cynnwys uchod gan mai dim ond rhan o’u tâl sy’n berthnasol i’w gwaith fel Comisiynwyr. Nid oes modd gwahanu’u pensiwn cronedig a’u Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) fel Comisiynwyr oddi wrth y cyfanswm a gronnwyd.
Enw a theitl
|
Cyflog 2009/10 |
Cyflog 2008/ 09
|
Gwir gynnydd yn y pensiwn a’r cyfandaliad cysylltiedig pan fydd yn 65 oed |
Cyfanswm y pensiwn cronedig pan fydd yn 65 oed a chyfandaliad cysylltiedig erbyn 31/3/10 |
CETV ar 31/3/09 wedi’i ailddatgan |
CETV ar 31/3/10 |
Gwir gynnydd mewn CETV |
|
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
Deiliaid swyddi |
|
|
|
|
|
|
|
Yr Arglwydd Elis-ThomasAC – Y Llywydd |
90-95 |
90-95 |
2.5-5 |
35-40 |
685 |
769 |
70 |
Rosemary Butler AC – Y Dirprwy Lywydd |
75-80 |
75-80 |
0-2.5 |
15-20 |
284 |
325 |
34 |
Uwch Reolwyr |
|
|
|
|
|
|
|
|
Enw a theitl
|
Cyflog 2009/10 |
Cyflog 2008/ 09 |
Gwir gynnydd yn y pensiwn a’r cyfandaliad cysylltiedig yn 60 oed |
Cyfanswm y pensiwn cronedig yn 60 oed a chyfandaliad cysylltiedig erbyn 31/3/10 |
CETV ar 31/3/09 wedi’i ailddatgan |
CETV ar 31/3/10 |
Gwir gynnydd mewn CETV |
|
Claire Clancy – Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad |
135-140 |
140-145 |
5.0-7.5 a chyfandaliad o 15-20 |
50-55 a chyfandaliad o 160-165 |
883* |
1,047 |
105* |
|
Dianne Bevan – Y Prif Swyddog Gweithredu |
115-120 |
115-120 |
5.0-7.5 |
50-55 |
701* |
833 |
83* |
|
Adrian Crompton – Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad |
95-100 |
95-100 |
2.5-5.0 a chyfandaliad o 5-10 |
25-30 a chyfandaliad o 75-80 |
326* |
393 |
44 |
|
Keith Bush – Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol |
115-120 |
105-110 |
2.5-5.0 |
15-20 |
271* |
331 |
56 |
|
Roedd y tabl hwn yn destun archwiliad
*Mae’r ffigurau hyn yn wahanol i’r ffigyrau pan gaewyd cyfrifon y llynedd oherwydd bod ffactor anghywir wedi’i ddefnyddio ar gyfer addasiadau oherwydd cyflwr y farchnad wrth eu cyfrifo. O ganlyniad, roedd y CETV a nodwyd ar gyfer 31/3/09 yn rhy uchel ac roedd y CETV a nodwyd ar gyfer 2008-09 £1000 yn uwch na’r gwir gynnydd.
Cyflogau
Y cyflogau yn y tabl uchod yw’r swm yr enillodd y swyddogion yn ystod y flwyddyn ariannol ac mae’n cynnwys yr holl daliadau dyledus. Nid yw’n cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol neu Bensiwn. Mae cyflogau’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn parhau i gael eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru.
Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV)
Dyma werth cyfalafol buddiannau'r cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol ac a aseswyd gan actwari. Y buddiannau a gaiff eu prisio yw buddiannau cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol a ddelir gan eu priod sy'n daladwy o'r cynllun. Taliad yw CETV a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i ddiogelu buddiannau pensiwn mewn cynllun neu drefniant ensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo'r buddiannau a gronnwyd eisoes yn y cynllun blaenorol. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn nodi'r buddiannau a gronnwyd gan yr unigolyn ar ôl dod yn aelod llawn o'r cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae'r broses datgelu yn berthnasol iddo. Cyfrifir CETV o fewn y canllawiau a’r fframwaith a bennir gan y Sefydliad a'r Gyfadran Actiwarïaid ac nid yw’n ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol na phosibl mewn buddion o ganlyniad i’r Dreth Lwfans Gydol Oes a all fod yn ddyledus pan hawlir buddion pensiwn.
Gwir gynnydd mewn CETV
Dyma’r elfen yn y cynnydd yn y pensiwn cronedig a ariennir gan y Comisiwn. Nid yw’n cynnwys y cynnydd mewn pensiwn cronedig sy’n seiliedig ar chwyddiant, cyfraniadau sy’n cael eu talu gan yr Aelod (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar ddechrau ac ar ddiwedd y cyfnod.
Buddion mewn nwyddau
Ni thalwyd unrhyw fuddion mewn nwyddau i’r Prif Weithredwr a Chlerc, y Cyfarwyddwyr, y Llywydd, y Dirprwy Lywydd na Chomisiynwyr y Cynulliad.
Teithio a chynhaliaeth
Dyma’r taliadau a wnaed i’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr am deithio a chynhaliaeth a threuliau eraill yn ystod y flwyddyn:
|
Claire Clancy Prif Weithredwr a Chlerc |
Dianne Bevan Prif Swyddog Gweithredu |
Adrian Crompton Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad |
Keith Bush Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol |
|
£ |
£ |
£ |
£ |
Milltiroedd mewn car |
- |
- |
- |
- |
Tacsi/llogi car |
- |
14 |
20 |
9 |
Teithio mewn awyren |
- |
- |
35 |
- |
Trafnidiaeth gyhoeddus |
- |
16 |
11 |
- |
Llety |
- |
- |
- |
176 |
Cynhaliaeth/treuliau |
- |
37 |
197 |
- |
CYFANSWM |
- |
67 |
263 |
185 |
Roedd y tabl hwn yn destun archwiliad
Pensiynau
Darperir buddion pensiwn i staff y Cynulliad drwy drefniadau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir ac felly ni all y Comisiwn nodi cyfran yr asedau a'r rhwymedigaethau sylfaenol sy'n berthnasol iddo. Cynhaliodd actiwari’r cynllun brisiad llawn o’r cynllun ar 31 Mawrth 2007. Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Pensiwn Sifil (www.civilservice-pensions.gov.uk). Yn ystod 2009-10 roedd cyfraniadau’r cyflogwyr yn daladwy yn ôl un o bedair cyfradd rhwng 16.7% a 24.3% o dâl pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog (sydd wedi gostwng ers 2008-09). Bydd Actiwari’r cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr bob pedair blynedd yn dilyn proses brisio lawn. Pennir cyfraddau’r cyfraniadau i dalu cost y buddion a gronnwyd yn ystod 2009-10 i’w talu pan fydd yr aelod yn ymddeol, yn hytrach na’r buddion a dalwyd yn ystod y cyfnod hwn i’r rheini sydd eisoes yn derbyn pensiwn.
O 1 Hydref 2002 ymlaen, rhaid i gyflogeion ymuno ag un o bedwar cynllun buddion ‘cynllun terfynol’ diffiniedig statudol (clasurol, premiwm, clasurol a mwy a nuvos). Ni chaiff y cynlluniau eu hariannu a chaiff costau'r buddiannau eu talu o swm o arian y bydd Senedd y DU yn pleidleisio arno bob blwyddyn. Bydd pensiynau sy'n daladwy o dan y cynlluniau hyn yn cynyddu'n flynyddol yn unol â newidiadau yn y Mynegai Prisiau Manwerthu. Roedd y rheini a ymunodd o’r newydd rhwng 1 Hydref 2002 a 29 Gorffennaf 2007 yn cael dewis bod yn aelod o'r cynllun premiwm neu ymuno â chynllun cyfranddeiliaid 'prynu arian' o safon uchel sy'n cynnwys cyfraniad sylweddol gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth). Gall y rheini a ymunodd ar 30 Gorffennaf 2007 neu wedyn ymuno â’r cynllun nuvos neu gallant ddewis cyfrif pensiwn partneriaeth.
Mae cyflogeion yn talu cyfraniadau ar gyfradd o 1.5% o enillion pensiynadwy ar gyfer y cynllun clasurol a 3.5% ar gyfer y cynllun premiwm, clasurol a mwy a nuvos. Mae buddiannau yn y cynllun clasurol yn crynhoi ar gyfradd o 1/80 o gyflog pensiynadwy ar gyfer bob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal â hyn, telir cyfandaliad sy'n gyfwerth â thair blynedd o bensiwn adeg ymddeol. Mae buddiannau'n crynhoi ar gyfradd o 1/60 o gyflog pensiynadwy terfynol ar gyfer bob blwyddyn o wasanaeth yn y cynllun premiwm. Yn wahanol i'r cynllun clasurol, nid oes unrhyw gyfandaliad awtomatig ond gall aelodau roi rhan o'u pensiwn heibio i ddarparu cyfandaliad. Yn ei hanfod, amrywiad o'r cynllun premiwm yw’r cynllun clasurol a mwy, ond caiff buddiannau’n gysylltiedig â gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 eu cyfrifo'n fras fel y cynllun clasurol. Cynllun cyfartaledd gyrfa yw Nuvos gyda buddion yn cronni ar gyfradd o 2.3 y cant o’r cyflog bob blwyddyn, a chaiff ei ailbrisio’n unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu ar ddiwedd bob blwyddyn.
Trefniant pensiwn cyfranddeiliaid yw cyfrif pensiwn partneriaeth. Mae'r cyflogwr yn talu cyfraniad sylfaenol o rhwng 3% a 12.5% (yn dibynnu ar oedran yr aelod) i gynnyrch pensiwn cyfranddeiliaid a ddewisir gan y cyflogai. Nid oes raid i'r cyflogai gyfrannu ond os bydd yn cyfrannu, bydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.8% pellach o gyflog pensiynadwy i gynnwys cost yswiriant buddiant risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad oherwydd salwch).
Y pensiwn cronedig a nodir yw’r pensiwn y gall yr aelod ei hawlio pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn, neu pan fydd yn peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw eisoes dros oedran ymddeol. 60 yw’r oedran pensiwn i aelodau cynllun pensiwn clasurol, pensiwn premiwm a chlasurol a mwy a 65 yw’r oedran i aelodau cynllun pensiwn nuvos.
Cewch ragor o fanylion am drefniadau Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar y wefan www.civilservice-pensions.gov.uk
Mae Aelodau’r Cynulliad yn perthyn i Gynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynllun buddion diffiniedig yw hwn sy’n berthnasol i gyfanswm hawliau cyflog aelodau gan gynnwys y symiau a gaiff eu talu i ddeiliaid swyddi a Gweinidogion Cymru. Caiff y Cynllun ei weinyddu gan Ymddiriedolwyr, ac mae’n gwbl annibynnol ar Gomisiwn y Cynulliad. Mae cyfrifon y Cynllun i’w gweld ar www.cynulliadcymru.org
Prif fuddion y cynllun yw pensiwn o naill ai 1/50 neu 1/40 o gyflog terfynol yr aelod am bob blwyddyn o wasanaeth pan fydd yn ymddeol yn 65 oed. Mae’r pensiwn yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â newidiadau yn y Mynegai Prisiau Manwerthu. Mae aelodau’n cyfrannu swm sy’n cyfateb i 6% o gyfanswm eu cyflog (gan gynnwys unrhyw elfennau ychwanegol y mae gan ddeiliaid swyddi a Gweinidogion Cymru hawl iddynt) i gael cyfradd groniadau o 1/50 , neu 10% o gyfanswm eu cyflog i gael cyfradd groniadau o 1/40, gyda’r Comisiwn yn cyfrannu swm sy’n cyfateb i 23.8% o gyfanswm eu cyflog ar ôl 1 Ebrill 2009 (23% tan 31 Mawrth 2009).
Claire
Clancy |
Dyddiad: 13 Gorffennaf 2010 |
Datganiad o Gyfrifoldebau’r Comisiwn a’r Swyddog Cyfrifyddu
Mae’r Prif Weithredwr a’r Clerc wedi paratoi datganiad o gyfrifon yn unol â chyfarwyddyd y Trysorlys, egwyddorion cyfrifyddu a’r gofynion datgelu sydd wedi’u gosod allan yn y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol. Paratowyd y Cyfrifon Adnoddau ar sail cyfrifyddu croniadau ac maent yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn, yr alldro adnoddau net, yr adnoddau a ddyrannwyd i gyflawni amcanion, y datganiad costau gweithredu, y datganiad o’r sefyllfa ariannol, llifau arian a’r datganiad o’r newidiadau yn ecwiti’r trethdalwyr yn ystod y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’r Prif Weithredwr a’r Clerc wedi:
- cydymffurfio â chyfarwyddyd y Trysorlys mewn perthynas â chyfrifon;
- cydymffurfio â’r gofynion perthnasol o ran cyfrifyddu a datgelu gwybodaeth, ac wedi glynu’n gyson wrth yr egwyddorion cyfrifyddu priodol;
- gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon rhesymol a gofalus;
- nodi a yw safonau cyfrifyddu priodol wedi’u dilyn, yn amodol ar unrhyw eithriadau a gaiff eu datgelu a’u hegluro yn y cyfrifon; a
- pharatoi’r cyfrifon ar ffurf proses barhaus.
O dan Adran 138 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad yw Swyddog Cyfrifyddu’r Comisiwn. Mae cyfrifoldebau perthnasol y Swyddog Cyfrifyddu, gan gynnwys y cyfrifoldeb dros gywirdeb a chysondeb yng nghyllid y Comisiwn a dros gadw cofnod priodol, wedi’u gosod allan mewn memorandwm a gyhoeddwyd gan y Trysorlys.
Claire Clancy |
Dyddiad: 13 Gorffennaf 2010 |
Datganiad Rheoli Mewnol
Cwmpas y cyfrifoldeb
Fel y Swyddog Cyfrifyddu, mae gennyf gyfrifoldeb dros gynnal system gadarn o reoli mewnol sy’n galluogi Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi ei bolisïau, ei nodau a’i amcanion ar waith gan hefyd ddiogelu’r arian a’r asedau cyhoeddus y mae gennyf gyfrifoldeb personol drostynt, yn unol â’r cyfrifoldebau a roddwyd arnaf gan y Trysorlys. Mae’n ddyletswydd arnaf i, fel y Swyddog Cyfrifyddu, i gyfuno’r cyfrifoldebau hyn â’m cyfrifoldeb i wasanaethu’r Comisiynwyr yr wyf yn atebol iddynt ac sy’n rhoi awdurdod i mi.
Mae Comisiwn y Cynulliad yn gosod allan nodau, amcanion, polisïau a gwerthoedd y sefydliad ac, yn unol â darpariaethau paragraff 7 yn Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y mae wedi dirprwyo’i swyddogaethau, gan gynnwys ei gyfrifoldeb dros reoli staff, i mi fel Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, yn amodol ar rai eithriadau ac amodau penodol. Mae gwaith y Cynulliad a’r Comisiwn yn ennyn cryn dipyn o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd a’r cyfryngau, ac mae iddo oblygiadau gwleidyddol pellgyrhaeddol.
Yn ystod 2009 -10, cefais i, fel y Swyddog Cyfrifyddu, gyngor gan:
- Gomisiwn y Cynulliad, o ran polisi, gwerthoedd, cyfeiriad strategol, risgiau a chyfleoedd;
- fy nhri Chyfarwyddwr (sef y Prif Swyddog Gweithredu, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol) a Phennaeth yr Uned Gorfforaethol, o ran datblygu a darparu gwasanaethau a’r gallu i gyflawni;
- y Bwrdd Rheoli (sy’n cynnwys y Cyfarwyddwyr a phob Pennaeth Gwasanaeth);
- Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad (y Pwyllgor Archwilio – sef y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol gynt)– sy’n cynnwys un Comisiynydd a thri chynghorydd annibynnol y Comisiwn – gydag un ohonynt yn Cadeirio; ac
- archwilwyr mewnol ac allanol y Comisiwn - Swyddfa Archwilio Cymru, RSMTenon (a adwaenir fel RSM Bentley Jennison tan fis Rhagfyr 2009) a’r Pennaeth Archwilio Mewnol a benodwyd yn ddiweddar.
Diben y system rheoli mewnol
Mae fy Nghyfarwyddwyr a minnau’n arwain y gwaith o ddatblygu’r fframwaith rheoli manteision a risg ac o sicrhau ei fod yn rhan annatod o waith y gyfundrefn gyfan, yn unol ag arfer gorau. Rydym wedi adolygu a newid dogfennau’n ymwneud â’r fframwaith ar sail ein profiad ohono. Mae’r Cynghorydd Rheoli Manteision a Risg wedi bod yn gweithio gyda Phenaethiaid Gwasanaeth a Hyrwyddwyr Risg o bob maes gwasanaeth a chyda rheolwyr prosiect i hybu ymhellach y math o ddiwylliant sy’n gwireddu cyfleoedd drwy wella’r modd rydym yn ymdopi â risg ac i sicrhau bod y math hwn o ddiwylliant yn dod yn rhan annatod o’n gwaith. Mae’r Fframwaith Rheoli Manteision a Risg yn rhan sylfaenol ac allweddol o system rheoli mewnol a threfniadau llywodraethu corfforaethol y Comisiwn. Caiff risg a manteision eu rheoli’n effeithiol ar lefel weithredol a strategol. Mae’r gwaith o reoli risg yng nghyswllt rhaglenni a phrosiectau hefyd wedi’i ddatblygu ac mae angen i bob prosiect yn awr baratoi cofrestr risg. Dyma elfennau allweddol ein dulliau o ymdopi â risg:
- fforwm rheoli risg (sy’n cynnwys Hyrwyddwyr Risg o bob maes gwasanaeth) sy’n cyfarfod yn rheolaidd;
- adolygu a chofnodi symudiadau ac achosion o risg yn rheolaidd;
- adolygiadau trylwyr gan y Bwrdd Rheoli o un risg strategol ym mhob cyfarfod;
- ymwybyddiaeth staff o reoli risg, mannau gwan a sut i awgrymu newidiadau; a
- sicrhau bod risgiau sylweddol yn cael eu cyfeirio at y Cyfarwyddwyr i ddechrau, yna ataf i fel y Prif Weithredwr a’r Clerc, ac yna at Gomisiwn y Cynulliad, fel y bo’n briodol.
Mae’r tywydd garw a’r gweithredu diwydiannol a gafwyd yn ddiweddar wedi dangos ein bod yn gallu ymateb i ddigwyddiadau sy’n tarfu ar waith y Cynulliad gan ganiatáu i fusnes hanfodol barhau. Mae hyn wedi cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o reoli risg a pharhad busnes effeithiol. Mae prosiect ar y gweill yn awr i wella’n gallu i ymateb yn gydlynol i ddigwyddiadau annisgwyl sy’n tarfu ar waith y Cynulliad.
Rheoli mewnol
Mae fframwaith risg y Comisiwn yn rhan o system rheoli mewnol ehangach sy’n ategu trefniadau llywodraethu corfforaethol effeithiol. Mae’r Comisiwn Archwilio yn parhau i’m cynghori fel y Swyddog Cyfrifyddu. Mae rhaglen waith y Pwyllgor yn dilyn y model arfer gorau ar gyfer Pwyllgor Archwilio. Yn ystod y flwyddyn, datblygwyd yr agweddau penodol a ganlyn:
- gwella’r trefniadau i gynllunio, rheoli a monitro cyllidebau drwy weithredu’r Fframwaith Cyllideb newydd a gyflwynwyd i’r holl Benaethiaid Gwasanaeth;
- codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y staff o’n polisïau a’n gweithdrefnau llywodraethu;
- sefydlu Rhaglen a Bwrdd Newid i sicrhau bod rhaglenni a phrosiectau’n cael eu rheoli’n briodol a bod adnoddau cyfyngedig yn cael eu blaenoriaethu’n effeithiol. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd y newidiadau yn y sefydliad ac oherwydd yr hinsawdd economaidd bresennol;
- llwyddwyd i drosi datganiadau ariannol 2008-09 i gydymffurfio â’r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS). Cafodd yr adroddiad archwilio terfynol a oedd rhoi sicrwydd i’r cyfrifon a oedd yn cydymffurfio â’r IFRS, ei adolygu mis Ionawr 2010 ynghyd â’r fformat newydd ar gyfer IFRS 2009-10.
Cynhaliwyd e-arolwg hunanasesu gan y Pwyllgor Archwilio ym mis Mawrth 2010 a roddodd ddarlun cadarnhaol yn gyffredinol, ynghyd â nifer o feysydd lle mae cyfleoedd i’r Pwyllgor fod yn fwy effeithiol yn 2010-11.
Diogelu Gwybodaeth
Mae’r Cynulliad wedi mabwysiadu Fframwaith Polisi Diogelwch Swyddfa’r Cabinet a’r arweiniad cysylltiedig ac wedi datblygu cynllun gweithredu i fodloni’r gofynion. Mae’r arweiniad yn cynnwys trefniadau, swyddogaethau a chyfrifoldebau llywodraethu yn ogystal ag arweiniad manwl ar rai agweddau ar ddiogelwch corfforol a diogelwch gwybodaeth penodol. Mae’r Cynulliad wedi gwneud cynnydd pellach yn ystod 2009-10, gan gynnwys:
- Dynodwyd Swyddog Diogelwch Adrannol, y Pennaeth Diogelwch. Bydd yn cefnogi gwaith Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth y Cynulliad, y Prif Swyddog Gweithredu, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch. Caiff risgiau diogelwch eu rheoli drwy’r gofrestr risg strategol.
- Mae ymwybyddiaeth staff wedi codi drwy sesiynau cynefino a sesiynau hyfforddi eraill ar Ddiogelwch Gwybodaeth gan gynnwys: Rheoli Cofnodion, Rhyddid Gwybodaeth a’r Ddeddf Diogelu Data, ynghyd ag arweiniad ysgrifenedig. Mae polisi diogelwch TGCh newydd yn cael ei ddatblygu er mwyn ei gyflwyno gyda’r prosiect UNO ym mis Medi 2010.
- Datblygwyd cofrestr Asedau Gwybodaeth yn 2009 a nodwyd y mathau o wybodaeth sy’n cael ei chadw ym mhob maes gwasanaeth a phwy sy’n berchen arni. Cyflwynwyd polisi nod diogelwch newydd hefyd a oedd yn feincnod i sicrhau bod mesurau diogelwch priodol yn cael eu defnyddio.
- Argymhellodd adolygiad Archwiliad Mewnol o’r system Rheoli Cofnodion y dylai’r Cynulliad ddatblygu strategaeth rheoli gwybodaeth i gydnabod pwysigrwydd rheoli’r holl wybodaeth gorfforaethol. Caiff hyn, a’r fframwaith polisi diogelwch, eu trafod a’u datblygu yn ystod 2010-11.
Mae’r Cynllun Gweithredu newydd ar gyfer y Fframwaith Polisi Diogelwch yn dangos cynnydd mewn agweddau allweddol ar Ddiogelwch Gwybodaeth ac mae hyn wedi rhoi sicrwydd i mi. Byddwn yn adeiladu ar y gwaith hwn yn ystod 2010-11 i integreiddio’n polisïau a’n gweithdrefnau ymhellach drwy’r sefydliad ac i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y staff.
Y Seilwaith TGCh – prosiect UNO
Yn ystod 2008-09, cynhaliwyd adolygiad annibynnol eang o’r holl dechnoleg a ddefnyddir i gynnal busnes y Cynulliad ac o’r holl wasanaethau a ddarperir i Aelodau’r Cynulliad, y staff a’r cyhoedd. O ganlyniad i’r adolygiad hwn, sefydlwyd prosiect i gyflwyno un rhwydwaith i Aelodau’r Cynulliad, eu staff cymorth a staff y Cynulliad ac i ddiweddaru’r dechnoleg, cyflymu systemau rhannu data a chynllunio a chyflwyno seilwaith a gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth.
Sefydlwyd y prosiect yn ffurfiol ag adnoddau pwrpasol, yn dilyn penderfyniad y Comisiwn i fwrw ymlaen ag ef ym mis Mehefin 2009. Cafwyd amcan brisiau newydd gan y contractiwr am y deunyddiau a’r gwaith cynllunio ym mis Chwefror 2010, a gwelwyd y byddai’r costau gryn dipyn yn uwch na’r gyllideb a ddyrannwyd, yn bennaf oherwydd y bu angen gwella dibynadwyedd y systemau a’u gallu i sicrhau parhad busnes. Oherwydd oedi cyn setlo ar drefniadau’r cytundeb, symudwyd cyfran uwch o’r gost na’r disgwyl i flwyddyn ariannol 2010-11.
Mae’r adnoddau ar gyfer y prosiect wedi cynyddu o ran cryfder a maint. Bydd rheoli costau, sicrhau gwerth am arian a herio’n gadarn yn parhau’n flaenoriaethau yn ystod gweddill y prosiect. Law yn llaw â hyn, cafwyd asesiad trylwyr o gynlluniau gwario 2010-11, er mwyn medru talu’r costau â’r adnoddau presennol. Bydd yr adnoddau a neilltuwyd ar gyfer prosiect UNO yn effeithio ar ein gallu i gyflwyno prosiectau eraill a bydd agen rheoli’r adnoddau sydd ar gael yn dynn.
Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno i barhau â’r prosiect oherwydd yr holl fanteision hirdymor sy’n cynnwys:
- defnydd mwy cydgysylltiedig ac effeithlon o adnoddau’r Cynulliad;
- cysylltiad gwell â’r rhwydwaith;
- sylfaen i ddatblygu dulliau mwy integredig o ddarparu gwasanaethau yn y modd mwyaf effeithlon a chost effeithiol;
- moderneiddio’r ystâd Technoleg Gwybodaeth, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ymgysylltu’n well â’r cyhoedd; a
- gwella parhad busnes.
Yn ogystal â’u cyflogau, gall yr Aelodau hawlio lwfansau amrywiol a delir i ad-dalu’r costau maent yn eu hysgwyddo wrth ymgymryd â’u dyletswyddau. Mae rheolau’n diffinio pryd y cânt hawlio’r lwfansau hyn ac mae’r rhain wedi’u gosod allan yn y ‘Penderfyniadau’ a wnaed gan y Comisiwn o dan Reolau Sefydlog, a cheir arweiniad gan y Comisiwn hefyd ar sut i gymhwyso’r rheolau hynny. Er bod rheolau cadarn i sicrhau bod yr Aelodau wedi gwario’r swm y maent yn ei hawlio, (ac mae Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio’r system lwfansau), yr Aelodau eu hunain sy’n gyfrifol am sicrhau y bu’n rhesymol iddynt wario ar yr hyn y maent yn ei hawlio er mwyn eu galluogi i wneud eu gwaith. Gan hynny, o dan y trefniadau presennol, mae’n anorfod bod cyfyngiadau ar effeithiolrwydd rheoli mewnol.
Yn ystod 2008-09, sefydlodd Comisiwn y Cynulliad Banel Adolygu Annibynnol i gynnal adolygiad manwl o’r cymorth ariannol a roddir i Aelodau’r Cynulliad, a’r rheolau cysylltiedig. Cyhoeddwyd ei adroddiad, sef 'Yn Gywir i Gymru' ym mis Gorffennaf 2009, a derbyniodd y Comisiwn bob un o’r 108 argymhelliad. Yna sefydlwyd prosiect ffurfiol i’w rhoi ar waith ac mae tua hanner ohonynt wedi’u rhoi ar waith eisoes. Caiff y gweddill eu rhoi ar waith yn ystod rhaglen y Pedwerydd Cynulliad.
Un o argymhellion allweddol y Panel yw y dylid sefydlu Bwrdd Taliadau annibynnol i ymgymryd â rôl y Comisiwn o ran pennu cyflogau a lwfansau’r Aelodau. Dylai’r Bwrdd hwn fod wedi’i sefydlu cyn diwedd 2010 yn dilyn gweithredu Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau).
Argymhelliad arall oedd y dylid defnyddio’r broses Archwilio Mewnol i roi sicrwydd bod y fframwaith rheoli mewnol mewn perthynas â’r trefniadau newydd yn ddibynadwy ac yn gweithredu’n ôl y disgwyl. Yn 2009-10, canolbwyntiodd yr adolygiad hwn ar y trefniadau rheoli prosiect a daeth i’r casgliad bod y trefniadau’n foddhaol. Argymhellodd y Panel hefyd y dylai Swyddfa Archwilio Cymru edrych ar sampl o hawliadau a gyflwynwyd gan Aelodau’r Cynulliad. Yn 2009-10, cynhaliwyd archwiliadau o’r fath a daeth Swyddfa Archwilio Cymru i’r casgliad na fu camgymeriadau o bwys yn y costau a hawliodd Aelodau’r Cynulliad, er y gellid cryfhau rhai agweddau ar weinyddu’r hawliadau.
Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi gwybodaeth yn rheolaidd am y symiau y mae’r Aelodau’n eu hawlio. Golyga hyn bod modd i’r cyhoedd graffu’n fanwl ar y defnydd hwn o arian cyhoeddus, mae’n ategu’r dulliau rheoli mewnol ac yn golygu bod yr agwedd hon ar wariant yn cael ei rheoli’n fwy effeithiol yn gyffredinol. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cadarnhau bod y Comisiwn wedi cydymffurfio â’i ymrwymiad i gyhoeddi gwybodaeth o’r natur hwn.
Mae’r defnydd priodol o adnoddau’r Cynulliad, naill ai’n uniongyrchol neu drwy’r system Lwfansau, yn rhan o Gylch Gwaith Comisiynydd Safonau’r Cynulliad - swyddog annibynnol a benodir gan y Cynulliad. Mae’r Comisiynydd yn rhoi cyngor a chymorth ar faterion o egwyddor yn ymwneud ag ymddygiad Aelodau’r Cynulliad, ac mae’n ymchwilio’n annibynnol i gwynion am Aelodau’r Cynulliad yn torri unrhyw god, protocol neu benderfyniad a wnaed gan y Cynulliad. Bydd yn tynnu fy sylw at unrhyw faterion perthnasol sy’n codi yn ystod ei ymchwiliadau.
Yn ystod y flwyddyn, pasiodd y Cynulliad y Mesur Comisiynydd Safonau a fydd yn sefydlu swydd Comisiynydd Safonau’n statudol ac yn cryfhau pwerau ymchwilio’r Comisiynydd. Mae’r Mesur yn cynnwys dyletswydd benodol ar ran y Comisiynydd i roi gwybod i’r Swyddog Cyfrifyddu am unrhyw faterion perthnasol a ddaw i’r amlwg yn ystod ymchwiliad, fel amryfusedd yn y rheolau perthnasol neu wendidau yn y system rheoli.
Adolygu effeithiolrwydd.
Fel y Swyddog Cyfrifyddu, mae gennyf gyfrifoldeb dros adolygu effeithiolrwydd y system rheoli mewnol. Mae fy adolygiad o effeithiolrwydd y system rheoli mewnol wedi’i seilio ar waith yr archwilwyr mewnol, y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw’r fframwaith rheoli mewnol, y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a sylwadau’r archwilwyr allanol yn eu llythyr rheoli a’u hadroddiadau eraill.
Cefais gyngor gan fy Nghyfarwyddwyr a’r Pwyllgor Archwilio ynghylch goblygiadau canlyniad fy adolygiad o effeithiolrwydd y system rheoli mewnol, ac mae cynllun ar y gweill i fynd i’r afael â gwendidau ac i sicrhau bod y system yn gwella’n barhaus.
Yn Adroddiad Archwiliad Mewnol Blynyddol 2009-10, dywedwyd bod prosesau rheoli a llywodraethu risg y Cynulliad yn ddigonol ac yn effeithiol at ddibenion cyflawni amcanion y Comisiwn. Yn yr adroddiadau archwilio mewnol a gynhyrchwyd ar gyfer y flwyddyn, cofnodwyd:
- sicrwydd sylweddol ar gyfer: y Gyflogres/Adnoddau Dynol; Rheolaeth Ariannol Allweddol; Rheoli Cyllidebol a Llywodraethu Corfforaethol;
- sicrwydd digonol ar gyfer Monitro Perfformiad; a
- chynnydd rhesymol yn yr adolygiad dilynol o archwiliadau blaenorol.
Cynhyrchwyd adroddiadau hefyd ar gyfer: archwiliad mewnol cynghorol ar brosesau lwfansau’r Aelodau; adolygiad o’r prosesau caffael ac archwiliad gwerth ychwanegol arall ar reoli cofnodion.
Roedd y Pwyllgor Archwilio o’r farn bod angen gwella’r broses archwilio mewnol er mwyn sicrhau gwerth ychwanegol a’r budd mwyaf bosibl ohoni. At y diben hwn, penodwyd Pennaeth Archwilio Mewnol newydd ym mis Tachwedd 2009 a chytunodd yr uwch reolwyr a’r Pwyllgor Archwilio ar strategaeth a rhaglen archwilio mewnol newydd.
Craidd ein hadolygiad o effeithiolrwydd oedd proses hunanadolygu a gwblhawyd rhwng mis Rhagfyr 2009 a mis Mawrth 2010. Roedd yn cynnwys fframweithiau Llywodraethu Corfforaethol a Chynllunio Corfforaethol, arweinyddiaeth a threfniadau rheoli busnes, ymwybyddiaeth o’r amgylchedd rheoli ac ymgysylltiad ag ef. Cefais Ddatganiad Sicrwydd dros dro gan y Cyfarwyddwyr yng nghyswllt eu meysydd cyfrifoldeb nhw, ac yna Datganiad Sicrwydd terfynol ar ddiwedd y flwyddyn.
Nodwyd nifer o gamau i’w cymryd yn dilyn ein hadolygiad y llynedd a llwyddwyd i gyflawni’r canlynol mewn perthynas â’r rhain:
- ym mis Mehefin, 2009, aethom ati i gyhoeddi gwybodaeth gynhwysfawr am y lwfansau a delir i’r Aelodau, ac rydym yn gwneud hynny bob mis ers mis Hydref;
- penodwyd Pennaeth Archwilio Mewnol ym mis Tachwedd 2009 a datblygwyd strategaeth newydd;
- mae’r gwaith a wneir yng nghyswllt cynllun gweithredu’r Fframwaith Polisi Diogelwch wedi’i fonitro. Trefnodd Swyddog Diogelwch yr Adran gyfarfod o bobl allweddol ym mis Ebrill 2010 i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu strategaethau allweddol ac o integreiddio polisïau a chanllawiau a fydd yn allweddol er mwyn bwrw ymlaen â’r agenda hwn;
- sefydlwyd y “Fforwm Cynnal Rhagoriaeth mewn Rheoli Prosiectau”, hyfforddwyd yr Uwch Swyddogion Cyfrifol ac mae hyfforddiant ychwanegol wedi’i gynllunio i ddatblygu arbenigedd drwy’r sefydliad gyfan mewn rheoli prosiectau;
- codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith staff o’n polisïau a’n gweithdrefnau llywodraethu drwy raglen o sesiynau sbardun a drwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu mewnol;
- datblygu sgiliau rheoli ariannol cadarn ymhlith staff; a
- sefydlu Rhaglen Newid i’w gwneud yn haws blaenoriaethu adnoddau’n effeithiol yn y meysydd hynny sy’n cael yr effaith fwyaf ac sy’n rhoi’r budd mwyaf.
Rhagolwg
Bydd blwyddyn ariannol 2010-11 yn arbennig o anodd. Rhaid i ni gynnal safonau a gwasanaethau i’r Cynulliad a’i Aelodau er bod y setliad ariannol yn dynnach ac er y cynnydd tebygol yn ein llwyth gwaith. Yn ogystal â hyn, rydym wedi ymrwymo i roi nifer o brosiectau uchelgeisiol ar waith a fydd o bwys strategol, gan gynnwys:
- darparu un rhwydwaith unedig ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a staff y Cynulliad. Bydd angen cryn dipyn o adnoddau - o ran cyllid a phobl - i gwblhau’r prosiect yn llwyddiannus yn 2010-11. Bu’n rhaid ail-flaenoriaethu cynlluniau gwariant ar gyfer mathau eraill o waith i wneud hyn;
- rhoi gweddill argymhellion yr adroddiad “Yn Gywir i Gymru” ar waith;
- paratoi ar gyfer y cyfnod yn arwain at y Pedwerydd Cynulliad yn 2011; ac wedyn
- ymateb i argymhellion y panel annibynnol ar wasanaethau dwyieithog.
Mae’r holl alwadau hyn yn golygu y bydd yn fwy hanfodol fyth i ni gael trefniadau cadarn i reoli risg a chyllid a threfniadau llywodraethu sy’n gweithio’n effeithiol. Yn yr hirdymor, bydd angen i ni sicrhau cydbwysedd priodol rhwng y galwadau cynyddol arnom, yr adnoddau sydd ar gael i ni ac effeithlonrwydd cynyddol er mwyn darparu gwasanaethau’n llwyddiannus. Rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer hyn drwy ariannu costau ychwanegol yng nghyllidebau 2009-10 a 2010-11. Rydym hefyd yn gweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru i geisio penderfynu ar yr arfer gorau wrth weithio’n fwy effeithlon.
Mae’r adolygiad eleni wedi nodi y dylem ganolbwyntio mwy ar y meysydd a ganlyn:
- parhau i herio a gwella dulliau rheoli cyllidebol, gan sicrhau bod gennym systemau rhagorol i ymdopi â chyfnodau o lymder arianjol;
- cydweithio â chyrff allanol i geisio sicrwydd ychwanegol ac i bennu meincnodau ar gyfer prosesau cyllidebol i roi’n systemau ar brawf ac i amlygu eu cryfder, ac i fanteisio ar arfer gorau;
- dangos manteision y Rhaglen Newid a’r prosiectau cysylltiedig a’u rhoi ar waith o fewn y cyfyngiadau ariannol sy’n ein hwynebu;
- ymgysylltu a chyfathrebu’n fwy effeithiol â’r holl randdeiliaid (gan gynnwys Aelodau/grwpiau o Aelodau), yn enwedig mewn perthynas â rhaglen y Pedwerydd Cynulliad sy’n cynnwys rhoi gweddill argymhellion yr adroddiad “ Yn Gywir i Gymru” ar waith;
- gwella’r wybodaeth a roddir i Gadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad i hyrwyddo dealltwriaeth a hyder y pwyllgor ymhellach;
- mae’r newidiadau a wnaed yn ddiweddar ym mhrosesau caffael yr UE wedi ychwanegu sancsiynau ychwanegol at y rheini sydd ar gael eisoes i’r llysoedd. Wrth i bwysigrwydd cytundebau a pherfformiad gynyddu mewn amgylchedd ariannol llymach, bydd angen i ni benderfynu a oes angen cynyddu adnoddau i ymdopi â lefel y risg sy’n ein hwynebu’n awr; a
- gwella’n gallu i ymateb i ddigwyddiadau’n sy’n tarfu’n annisgwyl ar ein gwaith drwy sicrhau adnoddau arbenigol gwell i hwyluso’r broses o gwblhau cynlluniau parhad busnes a’u rhoi ar brawf.
I grynhoi, rwy’n fodlon ein bod wedi ymdrin â’r gwendidau a amlygwyd drwy’r broses adolygu, neu’n bod wrthi’n ymdrin â nhw, a bod y system rheoli mewnol wedi datblygu’n effeithiol wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.
Claire Clancy |
Dyddiad: 13 Gorffennaf 2010 |
Cenedlaethol Cymru
Tystysgrif ac Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Rwy’n ardystio fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2010 o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r rhain yn cynnwys Datganiad Cyflenwad Seneddol, Datganiad Costau Gweithredu a Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol, y Datganiad Llif Arian, y Datganiad o‘r Newidiadau yn Ecwiti’r Trethdalwyr a’r Datganiad Costau Gweithredu yn ôl Nodau ac Amcanion a’r nodiadau cysylltiedig. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Rwyf hefyd wedi archwilio’r wybodaeth yn yr Adroddiad Taliadau y nodir yn yr adroddiad hwnnw iddi gael ei harchwilio.
Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu’n gyfrifol am baratoi’r Adroddiad Blynyddol, sy’n cynnwys yr Adroddiad Taliadau a’r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a chyfarwyddyd Trysorlys Ei Mawrhydi a wnaed o dan y ddeddf honno, ac am sicrhau rheoleidd-dra’r trafodion ariannol. Nodir y cyfrifoldebau hyn yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu.
Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau sydd i’w harchwilio’n unol â’r gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol, ac â’r Safonau Archwilio Rhyngwladol ( y DU ac Iwerddon).
Byddaf yn datgan a wyf o’r farn bod y datganiadau ariannol yn rhoi darlun gwir a theg, ac a yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau syddi’w harchwilio wedi’u paratoi’n unol â chyfarwyddyd Trysorlys EM a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Nodaf a yw’r wybodaeth sy’n cynnwys y Sylwadau Rheoli ac a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol, yn gyson, yn fy marn i, â’r datganiadau ariannol. Nodaf hefyd a yw’r gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mhob ffordd berthnasol ac a yw’r trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.
Nodaf hefyd os nad yw Comisiwn y Cynulliad, yn fy marn i, wedi cadw cofnodion cyfrifyddu priodol, os na fyddaf wedi cael yr holl wybodaeth a’r esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad neu os na chafodd y wybodaeth a nodwyd gan Drysorlys EM o ran taliadau a thrafodion eraill ei datgelu.
Adolygaf a yw’r Datganiad Rheoli Mewnol yn dangos bod Comisiwn y Cynulliad yn cydymffurfio â chyfarwyddyd Trysorlys EM, ac os nad ydyw, byddaf yn nodi hynny. Nid yw’n ofynnol i mi ystyried a yw’r datganiad hwn yn cwmpasu’r holl risgiau a rheolaethau, nac i roi barn ar effeithiolrwydd gweithdrefnau llywodraethu corfforaethol Comisiwn y Cynulliad na’i weithdrefnau risg a rheoli.
Darllenaf weddill y wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol gan ystyried a yw’n gyson â’r datganiadau ariannol a archwilir. Ystyriaf y goblygiadau i’m tystysgrif os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau amlwg neu anghysondebau perthnasol â’r datganiadau ariannol. Nid yw fy nghyfrifoldebau’n ymestyn i unrhyw wybodaeth arall.
Cynhaliais fy archwiliad yn unol ā’r Safonau Archwilio Rhyngwladol (y DU ac Iwerddon) a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Arferion Archwilio. Mae fy archwiliad yn cynnwys archwilio, ar sail prawf, y dystiolaeth sy’n berthnasol i’r symiau, y datgeliadau a rheoleidd-dra’r trafodion ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ariannol a’r rhan honno o’r Adroddiad Taliadau sydd i’w harchwilio. Mae hefyd yn cynnwys asesiad o’r amcangyfrifon a’r dyfarniadau arwyddocaol a wnaed gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu wrth baratoi’r datganiadau ariannol, ac ai’r polisïau cyfrifyddu hynny yw’r rhai mwyaf priodol o ystyried amgylchiadau Comisiwn y Cynulliad, ac a ydynt wedi’u cymhwyso’n gyson a’u datgelu’n ddigonol.
Cynlluniais a chynhaliais fy archwiliad er mwyn cael yr holl wybodaeth a’r esboniadau a oedd yn angenrheidiol, yn fy marn i, er mwyn rhoi digon o dystiolaeth i mi allu rhoi sicrwydd rhesymol nad oes camddatganiad perthnasol yn y datganiadau cyfrifyddu a’r rhan honno o’r Adroddiad Taliadau sydd i’w harchwilio, p’un ai drwy dwyll neu gamgymeriad, a bod y gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymhob ffordd berthnasol a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio ā’r awdurdodau sy’n eu rheoli. Wrth lunio fy marn rwyf hefyd wedi ystyried a yw’r wybodaeth yn y datganiadau ariannol a’r rhan honno o’r Adroddiad Taliadau sydd i’w harchwilio, yn gyffredinol, wedi’u cyflwyno’n foddhaol.
Yn fy marn i:
- mae’r datganiadau ariannol yn rhoi darlun gwir a theg, yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a’r cyfarwyddyd a wnaed o dan y Ddeddf honno gan Drysorlys EM, o sefyllfa ariannol Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 31 Mawrth 2010, a’r gofyniad arian parod net, yr alldro adnoddau net, y costau gweithredu net, y costau gweithredu a gymhwyswyd i’r amcanion, yr enillion a’r colledion cydnabyddedig a’r llifau arian parod am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
- mae’r datganiadau ariannol a’r rhan honno o’r Adroddiad Taliadau sydd i’w harchwilio wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwydd Trysorlys EM a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; ac
- mae’r wybodaeth sy’n cynnwys y Sylwadau Rheoli, yn gyson â’r datganiadau ariannol.
Barn ar Reoleidd-dra
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’r trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.
Adroddiad
Nid oes gennyf sylwadau ar y datganiadau ariannol hyn.
Gillian Body
Archwilydd Cyffredinol Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ
14 Gorffennaf 2010
Datganiad Cyflenwad Cynulliad Cenedlaethol Cymru
a) Crynodeb o’r Alldro 2009–10
|
|
2009-10 £’000 |
Alldro wedi’i ailddatgan2008-09 £’000 |
||||||
|
|
Cyllideb |
Alldro |
Cyfanswm alldro net o’i gymharu â’r gyllideb: arbedion / (gwariant ychwanegol) |
|
||||
|
Nodyn |
Gwariant gros |
Incwm |
Cyfanswm net |
Gwariant gros |
Incwm wedi’i gymhwyso |
Cyfanswm net |
||
Refeniw |
3 |
46,041 |
(160) |
45,881 |
44,558 |
(111) |
44,447 |
1,434 |
44,281 |
Cyfalaf |
3 |
3,820 |
|
3,820 |
4,405 |
|
4,405 |
(585) |
260 |
Cyfanswm |
|
49,861 |
(160) |
49,701 |
48,963 |
(111) |
48,852 |
849 |
44,541 |
Ceir eglurhad o’r gwahaniaeth rhwng y gyllideb a’r alldro yn nodyn 3.
b) Gofyniad arian parod net 2009-10
|
|
|
|
2009-10 £’000 |
Wedi’i ailddatgan 2008-09 £’000 |
|
Nodyn |
Cyllideb |
Alldro |
Cyfanswm alldro net o’i gymharu â’r gyllideb: arbedion / (gwariant ychwanegol) |
|
Gofyniad arian parod net |
5 |
44,301 |
43,626 |
675 |
38,024 |
c) Crynodeb o’r incwm sy’n daladwy i Gronfa Gyfunol Cymru
Yn 2009-10 bydd angen i Gomisiwn y Cynulliad dalu £139.23 (£15,964.98 yn 2008-09) i Gronfa Gyfunol Cymru. Mae’r arian hwn yn cynrychioli’r llog banc a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn.
Datganiad Costau Gweithredu
Am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2010
|
Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol
fel yr oedd ar 31 Mawrth 2010
|
|
|
31 Mawrth 2010 |
|
Wedi’i ailddatgan 31 Mawrth 2009 |
|
Wedi’i ailddatgan 1 Ebrill 2008 |
|
|
Nodyn |
£’000 |
|
£’000 |
|
£’000 |
|
|
|
|
|
|
|
|
Asedau anghyfredol: |
|
|
|
|
|
|
|
Eiddo, offer a chyfarpar |
9 |
70,064 |
|
68,097 |
|
69,966 |
|
Asedau anniriaethol |
10 |
441 |
|
103 |
|
138 |
|
Cyfanswm yr asedau anghyfredol |
|
70,505 |
|
68,200 |
|
70,104 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Asedau cyfredol |
|
|
|
|
|
|
|
Stoc |
11 |
27 |
|
27 |
|
34 |
|
Symiau derbyniadwy |
12 |
1,151 |
|
1,187 |
|
956 |
|
Arian parod ac eitemau sy’n cyfateb i arian parod |
13 |
675 |
|
1,233 |
|
2,915 |
|
Cyfanswm yr asedau cyfredol |
|
1,853 |
|
2,447 |
|
3,905 |
|
Cyfanswm yr asedau |
|
72,358 |
|
70,647 |
|
74,009 |
|
|
|
|
|
|
|
||
Rhwymedigaethau cyfredol |
14 |
(5,953) |
|
(6,002) |
|
(5,695) |
|
Symiau taladwy |
|
||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyfanswm rhwymedigaethau eraill |
|
(5,953) |
|
(6,002) |
|
(5,695) |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Asedau anghyfredol ynghyd ag asedau /(rhwymedigaethau) cyfredol net |
|
66,405 |
|
64,645 |
|
68,314 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Rhwymedigaethau anghyfredol |
|
|
|
|
|
|
|
Symiau taladwy |
14 |
(163) |
|
- |
|
- |
|
Darpariaethau |
15 |
(5,878) |
|
(1,984) |
|
(1,310) |
|
Cyfanswm rhwymedigaethau anghyfredol |
|
(6,041) |
|
(1,984) |
|
(1,310) |
|
|
|
|
|
62,661 |
|
|
|
Asedau llai rhwymedigaethau |
|
60,364 |
|
|
67,004 |
||
|
|
|
|
|
|
|
|
Ecwiti’r trethdalwyr |
|
|
|
|
|
|
|
Y gronfa gyffredinol |
|
61,833 |
|
60,224 |
|
63,910 |
|
Y gronfa bensiwn wrth gefn |
|
(5,873) |
|
(1,967) |
|
(1,310) |
|
Y gronfa ailbrisio wrth gefn |
|
4,393 |
|
4,393 |
|
4,393 |
|
Cronfa wrth gefn asedau a roddwyd yn rhodd |
|
11 |
|
11 |
|
11 |
|
|
|
|
60,364 |
|
62,661 |
|
67,004 |
Claire Clancy |
Dyddiad: 13 Gorffennaf 2010 |
Datganiad Llif Arian
Am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2010
|
Nodyn |
2009-10£’000 |
Wedi’i ailddatgan 2008-09£’000 |
Llifau arian o weithgareddau gweithredu |
|
|
|
Costau gweithredu net |
4 |
(45,083) |
(44,900) |
Addasiadau ar gyfer trafodion heb fod yn arian parod: |
|
|
|
Addasiadau ar gyfer cost tâl cyfalaf |
8 |
2,162 |
2,284 |
Dibrisiant ac amorteiddiad |
8 |
2,100 |
2,164 |
Gostyngiad mewn stoc |
11 |
- |
7 |
Gostyngiad/(Cynnydd) mewn symiau derbyniadwy |
12 |
36 |
(231) |
|
|
|
|
Llai symudiadau mewn symiau derbyniadwy mewn perthynas ag eitemau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Datganiad Costau Gweithredu |
|
- |
(5) |
Cynnydd mewn symiau taladwy |
14 |
114 |
307 |
Llai symiau taladwyn ymwneud ag eitemau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Datganiad Costau Gweithredu |
13 |
558 |
1,684 |
Costau ariannu pensiynau a darpariaethau eraill |
5 |
256 |
304 |
All-lif arian net o weithgareddau gweithredu |
|
(39,857) |
(38,386) |
|
|
|
|
Llif arian o weithgareddau buddsoddi |
|
|
|
Prynu eiddo, offer a chyfarpar |
9 |
(4,033) |
(260) |
Prynu asedau anniriaethol |
10 |
(372) |
- |
All-lif arian net o weithgareddau buddsoddi |
|
(4,405) |
(260) |
|
|
|
|
All-lif arian o weithgareddau cyllido |
|
|
|
O Gronfa Gyfunol Cymru (cyflenwad) |
|
44,301 |
39,257 |
O Gronfa Gyfunol Cymru (taliadau uniongyrchol) |
|
636 |
640 |
Taliadau i Gronfa Gyfunol Cymru |
|
(1,233) |
(2,933) |
Mewnlif arian o weithgareddau cyllido |
|
43,704 |
36,964 |
|
|
|
|
Gostyngiad (net) mewn arian parod ac eitemau sy’n cyfateb i arian parod |
|
(558) |
(1,682) |
Arian parod ac eitemau sy’n cyfateb i arian parod ar ddechrau’r flwyddyn |
13 |
1,233 |
2,915 |
Arian parod ac eitemau sy’n cyfateb i arian parod ar ddiwedd y flwyddyn |
13 |
675 |
1,233 |
Datganiad o’r newidiadau yn ecwiti’r trethdalwyr |
|
|
|||||||||
am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2010 |
|
|
|
|
|||||||
|
Nodyn |
Y Gronfa Gyffredinol |
Y Gronfa Ailbrisio |
Cronfa Asedau a gafwyd yn rhodd |
Cronfa Bensiwn |
Cyfanswm cronfeydd |
|||||
|
|
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
|||||
Balans ar 31 Mawrth 2008 (fel y’i cofnodwyd yn wreiddiol) |
|
64,686 |
3,896 |
11 |
(1,310) |
67,283 |
|||||
Newidiadau yn y polisi cyfrifyddu - IFRS |
|
(776) |
497 |
- |
- |
(279) |
|||||
Balans wedi’i ailddatgan ar 1 Ebrill 2008 |
|
63,910 |
4,393 |
11 |
(1,310) |
67,004 |
|||||
|
|
|
|
|
|
|
|||||
Newidiadau yn ecwiti’r trethdalwyr yn 2008-09 |
|
|
|
|
|
|
|||||
Symudiadau yn y Gronfa Bensiwn |
|
- |
- |
- |
(657) |
(657) |
|||||
Taliadau heb fod yn arian parod – cost cyfalaf |
8 |
2,284 |
- |
- |
- |
2,284 |
|||||
Cost y gronfa bensiwn |
|
287 |
- |
- |
- |
287 |
|||||
Costau gweithredu net am y flwyddyn |
4 |
(44,900) |
- |
- |
- |
(44,900) |
|||||
Cyfanswm incwm a gwariant cydnabyddedig ar gyfer 2008-09 |
|
(42,329) |
- |
- |
(657) |
(42,986) |
|||||
|
|
|
|
|
|
|
|||||
Arian net o Gronfa Gyfunol Cymru - Cyflenwad |
|
39,257 |
- |
- |
- |
39,257 |
|||||
Taliadau uniongyrchol |
4 |
635 |
- |
- |
- |
635 |
|||||
Swm taladwy i Gronfa Gyfunol Cymru |
|
|
|
|
|
|
|||||
-Cyflenwad |
|
(1,233) |
- |
- |
- |
(1,233) |
|||||
-CFER |
4 |
(16) |
- |
- |
- |
(16) |
|||||
Balans ar 31 Mawrth 2009 |
|
60,224 |
4,393 |
11 |
(1,967) |
62,661 |
|||||
Newidiadau yn ecwiti’r trethdalwyr yn 2009-10 |
|
|
|
|
|
|
|||||
Symudiadau yn y gronfa bensiwn |
15 |
- |
- |
- |
(3,906) |
(3,906) |
|||||
Taliadau heb fod yn arian parod – cost cyfalaf |
8 |
2,162 |
- |
- |
- |
2,162 |
|||||
Cost y gronfa bensiwn |
|
268 |
- |
- |
- |
268 |
|||||
Costau gweithredu net ar gyfer y flwyddyn |
4 |
(45,083) |
- |
- |
- |
(45,083) |
|||||
Cyfanswm incwm a gwariant cydnabyddedig ar gyfer 2009-10 |
|
(42,653) |
- |
- |
(3,906) |
(46,559) |
|||||
|
|
|
|
|
|
|
|||||
Cronfa Gyfunol Cymru - Cyflenwad |
|
44,301 |
- |
- |
- |
44,301 |
|||||
-Taliadau uniongyrchol |
4 |
636 |
- |
- |
- |
636 |
|||||
Swm taladwy i Gronfa Gyfunol Cymru |
|
|
- |
- |
- |
|
|||||
-Cyflenwad |
|
(675) |
|
|
|
(675) |
|||||
Balans ar 31 Mawrth 2010 |
|
61,833 |
4,393 |
11 |
(5,873) |
60,364 |
|||||
Datganiad Costau Gweithredu’n ôl Nodau ac Amcanion
Dyma’r amcanion:
- hyrwyddo datganoli ac annog rhagor o bobl i gymryd rhan yn y broses;
- dangos undod, arweinyddiaeth ac ymateb yn feiddgar i newidiadau cyfansoddiadol;
- dangos parch, cywirdeb a llywodraethu da ym mhob agwedd ar ein gwaith;
- wweithio’n gynaliadwy;
- sicrhau bod y Cynulliad yn darparu’r gwasanaeth gorau ac y caiff ei ddarparu yn y modd mwyaf effeithiol.
Gweler nodyn 4 i weld sut y cysonir yr alldro adnoddau net â’r costau gweithredu net
Nodiadau i Gyd-fynd â’r Cyfrifon Adnoddau
1. Datganiad ar y polisïau cyfrifyddu
Paratowyd y datganiadau ariannol yn unol â Llawlyfr Adrodd Ariannol Rhyngwladol 2009-10 a addaswyd ar gyfer cyfansoddiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Comisiwn fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r polisïau cyfrifyddu a gynhwysir yn y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol yn dilyn arfer cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol yn y DU yng nghyswllt cwmnïau (UK GAAP) i’r graddau y mae’n ystyrlon ac yn briodol i’r sector cyhoeddus.
Pan fo’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol yn caniatáu dewis polisi cyfrifyddu, dewiswyd y polisi cyfrifyddu mwyaf addas ar gyfer amgylchiadau penodol y Comisiwn er mwyn rhoi darlun gwir a theg. Cafodd polisïau cyfrifyddu’r Comisiwn eu cymhwyso’n gyson wrth ddelio ag eitemau yr ystyriwyd eu bod yn berthnasol i’r cyfrifon. Yn ogystal â’r datganiadau a baratowyd o dan y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol, mae’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynulliad Cenedlaethol baratoi dau ddatganiad cyflenwad ac yn ôl amcanion strategol.
1.1 Confensiwn cyfrifyddu
Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol a addaswyd i ystyried asedau sefydlog a ail-brisiwyd yn unol â’r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol.
1.2 Eiddo, offer a chyfarpar
Y lefel sylfaenol ar gyfer cyfalafu ased sefydlog diriaethol yw £5,000 gan gynnwys TAW na ellir ei adennill. Y trothwy TG yw pan fo gwerth cyfunol asedau cysylltiedig a brynwyd yn fwy na £5,000. Caiff tir ac adeiladau eu prisio’n broffesiynol bob tair blynedd o leiaf. Ni chaiff asedau diriaethol eraill eu hailbrisio gan na fyddai’r symiau dan sylw, ym marn y Comisiwn, yn arwyddocaol.
1.3 Dibrisio asedau
Caiff eiddo, offer a chyfarpar eu hadolygu bob blwyddyn i sicrhau nad yw’r symiau sy’n cael eu cari ymlaen ar eu cyfer yn uwch na’r symiau y gellid eu hadennill. Os yw gwerth yr ased yn llai na’r swm sy’n cael ei gario ymlaen, mae’n ymddangos fel amhariad ar y Datganiad Gwariant Net.
1.4 Asedau sy’n cael eu hadeiladu
Caiff asedau sy’n cael eu hadielau eu cario ymlaen yn seiliedig ar gost hanesyddol gan ystyrir bod hyn cyfwerth â gwerth teg. Pan ddechreuir defnyddio’r adeilad, trosglwyddir yr ased i’r categori priodol a chaiff ei gynnwys mewn adolygiadau ailbrisio ac amhariad dilynol.
1.5 Asedau anniriaethol
Caiff trwyddedau meddalwedd eu cyfalafu fel asedau sefydlog anniriaethol a’u hamorteiddio ar sail llinell syth dros oes ddisgwyliedig yr ased (3-5 mlynedd).
1.6 Asedau a gafwyd yn rhodd
Caiff asedau a gafwyd yn rhodd eu cyfalafu ar sail eu gwerth cyfredol ac fel arfer cânt eu hailbrisio yn yr un modd ag asedau a brynwyd. Mae gwerth asedau a gafwyd yn rhodd yn cael ei adlewyrchu yn y gronfa asedau a gafwyd yn rhodd, a gredydir â gwerth y rhodd wreiddiol a’r ailbrisiadau dilynol.
1.7 Dibrisiant
Nid yw tir rhydd-ddaliadol, asedau sy’n cael eu hadeiladu, dogfennau neu gofnodion hanesyddol na gwaith celf yn cael eu dibrisio. Cyfrifir dibrisiad ar gyfradd a fydd yn dileu prisiad adeiladau ac asedau sefydlog diriaethol drwy randaliadau cyfartal dros gyfnod eu hoes ddefnyddiol ddisgwyliedig. Caiff asedau eu dadansoddi’n ôl eu helfennau perthnasol i adlewyrchu eu hoes economaidd amrywiol. Ni chânt eu dibrisio yn ystod y flwyddyn y cawsant eu caffael. Isod, rhestrir oes arferol asedau:
Adeiladau: |
50 mlynedd neu gyfnod arall a bennir gan brisiwr cymwysedig. |
Offer sefydlog: |
10 mlynedd, neu gyfnod arall a bennir gan y cyflenwr pan gaiff ei brynu neu ei brisio. |
Cyfarpar yn ymwneud â TGCh: |
3 blynedd |
Darnau gosod, gosodiadau a chyfarpar swyddfa: |
5 mlynedd |
Asedau anniriaethol (meddalwedd): |
3 neu 5 mlynedd |
Cerbydau: |
4 blynedd |
Asedau a gafwyd yn rhodd: |
I’w hasesu ar ôl eu derbyn |
1.8 Yr elfen a wireddwyd o’r gronfa ailbrisio
Mae cost dibrisiant yn cael ei gynnwys yn swm yr asedau a ail-brisiwyd. Gall elfen o’r dibrisiant godi felly oherwydd cynnydd yn y prisiad a byddai’n fwy na’r dibrisiant a fyddai’n cael ei gynnwys yng nghost hanesyddol yr asedau. Byddai’r swm dan sylw’n elw heb ei wireddu ar y prisiant, a chaiff ei drosglwyddo o’r Gronfa Ailbrisio i’r Gronfa Gyffredinol, os yw’n berthnasol.
1.9 Datganiad Costau Gweithredu
Mae incwm a chostau gweithredu’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau gweithredu Comisiwn y Cynulliad. Mae incwm yn cynnwys costau nwyddau a gwasanaethau yn seiliedig ar y gost lawn i gwsmeriaid allanol. Dangosir incwm a chostau heb gynnwys TAW os gellir ei adennill.
1.10 Tâl cyfalaf
Mae tâl, yn adlewyrchu cost cyfalaf a ddefnyddir gan y Comisiwn, wedi’i gynnwys yn y costau gweithredu. Cyfrifir y tâl yn ôl cyfradd safonol y Llywodraeth, sef 3.5% ar yr asedau net perthnasol cyfartalog. Caiff asedau net perthnasol eu diffinio fel yr holl asedau llai rhwymedigaethau ac eithrio asedau a gafwyd fel rhodd a balansau arian parod gyda Swyddfa’r Tâl-feistr Cyffredinol.
1.11 Stoc
Nodir y stoc, gan gynnwys nwyddau i’w hailwerthu, ar lefel isaf y gost a’r pris gwerthadwy net.
1.12 Cyfnewid Tramor
Caiff trafodion mewn arian cyfred tramor eu trosi’n sterling yn ôl y cyfraddau cyfnewid sydd mewn grym ar ddyddiad y trafodion dan sylw. Trosir imprestau cyfred tramor yn sterling ar y cyfraddau cyfnewid sydd mewn grym ar y pryd.
1.13 Pensiynau
Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil - Mae staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y Comisiwn a staff ar secondiad i weithio i’r Comisiwn yn gymwys i fod yn aelod o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir yw hwn ac felly ni all y Comisiwn nodi cyfran yr asedau a'r rhwymedigaethau sylfaenol sy'n berthnasol iddo. Cynhaliodd actiwari’r cynllun brisiad llawn o’r cynllun ar 31 Mawrth 2007. Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Pensiwn Sifil (www.civilservice-pensions.gov.uk).
Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad - Sefydlwyd cynllun pensiwn i Aelodau’r Cynulliad yn wreiddiol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac mae’n parhau mewn grym o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Cynllun buddion diffiniedig ydyw, ac mae’n gymwys i gyflogau aelodau a chyflog deiliaid swyddi. Telir cost pensiynau Aelodau’r Cynulliad drwy gyfrwng taliadau a gyfrifir ar sail gronnus gydag atebolrwydd i dalu buddion yn y dyfodol o gyfrifon y Cynllun. Bydd unrhyw ddyledion yn y gronfa sy’n codi oherwydd ddiffyg o ran asedau, yn cael eu talu drwy gynyddu’r swm y mae’r Comisiwn yn ei dalu. Wrth gyflwyno adroddiad am asedau a rhwymedigaethau’r Cynllun, mae’r Comisiwn wedi cadw at Safon Adrodd Ariannol Diwygiedig 19. Mae’r AMPS yn paratoi ei Gyfrifon Blynyddol ei hun, ar wahân i Gyfrifon y Comisiwn, ac mae’r rhain i’w gweld ar wefan y Cynulliad.
1.14 Cost Prydles Gweithredu
Caiff rhent sy’n daladwy o dan brydlesi gweithredu eu cynnwys yn y datganiad costau gweithredu dros gyfnod y prydlesi.
1.15 Treth ar Werth
Caiff y Comisiwn ei drin fel Corff y Goron at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994 a, chan hynny, at ddibenion Adran 41 o’r Ddeddf honno (cymhwyso i’r Goron) caiff ei drin fel un o adrannau’r llywodraeth, ac mae wedi’i eithrio rhag TAW yng nghyswllt nwyddau a gwasanaethau’r Cynulliad. Codir TAW ar y Comisiwn ar y gyfradd safonol yng nghyswllt ei weithgareddau masnachol, fel siop y Cynulliad.
1.16 Arian parod ac eitemau sy’n cydateb i arian parod
Mae arian parod ac eitemau sy’n cyfateb i arian parod yn cynnwys arian mewn llaw a balansau cyfredol yn y banc ac PG, y gellir eu trosi’n barod yn symiau penodol o arian parod nad yw eu gwerth yn debygol o newid yn sylweddol.
1.17 Buddion gweithwyr
Mae cyflogau, taliadau a chost holl fuddion cyflogaeth, gan gynnwys rhwymedigaethau’n gysylltiedig â gwyliau nad ydynt yn cael eu hawlio, yn cael eu cydnabod yn ystod cyfnod gwasanaeth staff.
2. Mabwysiadu’r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) am y tro cyntaf
Trosolwg o gysoniadau IFRS
Ar gyfer yr holl gyfnodau hyd at, ac yn cynnwys, y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2009, paratodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei adroddiad a’i gyfrifon blynyddol yn unol â’r Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol (UK GAAP). Mae’n rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru baratoi ei adroddiad a’i gyfrifon blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2010 yn unol ag IFRS.
Felly, paratowyd y cyfrifon hyn yn unol ag IFRS ar gyfer y cyfnodau’n dechrau ar 1 Ebrill 2009 neu wedi hynny. Dilynwyd y polisïau cyfrifyddu a osodir allan yn nodyn 1 wrth baratoi’r datganiadau ariannol ariannol am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2009, y wybodaeth gymharol a gyflwynir yn y datganiadau ariannol hyn am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2008 ac wrth baratoi’r fantolen IFRS agoriadol ar 1 Ebrill 2008.
IAS 19 Buddion Gweithwyr
O dan UK GAAP, cyhoeddwyd newidiadau yn FRS 17 ym mis Rhagfyr 2006 a oedd yn cysoni gofynion datgelu IAS 19 ac FRS 17 ac, o ganlyniad, ni chafodd y broses o weithredu IAS 19 unrhyw effaith ar ddatgelu pensiynau yn y cyfrifon. O dan IAS 19 Buddion Gweithwyr, fodd bynnag, mae’n rhaid i gyflogwyr gynnwys cyflogau a mathau eraill o daliadau, yn ogystal â buddion pensiwn a buddion terfynu swydd, fel buddion gweithwyr eu cyfrifon a’u datgeliadau.
Ar ôl mabwysiadu IAS 19, bu cynnydd o £313,000 yng nghroniadau credydwyr yn y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol fel yr oedd ar 1 Ebrill 2008 a bu cynnydd arall, o £40,000, yng nghroniadau credydwyr yn y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2009.
IAS 16 Eiddo, offer a chyfarpar
O dan IAS 16, os oes unrhyw ran o eiddo, offer neu gyfarpar sydd â chost sylweddol o’i chymharu â chyfanswm cost yr eitem, rhaid ei dibrisio ar wahân.
Ar ôl mabwysiadu IAS 16, bu gostyngiad yng ngwerth yr asedau’n gyffredinol oherwydd cynnydd o £497,000 mewn dibrisiant.
Ailddatgan cyfanswm y cronfeydd wrth gefn wrth drosglwyddo i IFRS |
|||||
|
|
|
|
|
|
|
Y Gronfa Gyffredinol £000 |
Cronfeydd wedi’u hailddatgan £000 |
Cronfa asedau a gafwyd yn rhodd £000 |
Cronfa bensiwn £000 |
Cyfanswm £000 |
|
|
|
|
|
|
Ecwiti’r trethdalwyr o dan UK GAAP ar 31 Mawrth 2009 |
61,551 |
3,896 |
11 |
(1,967) |
63,491 |
|
|
|
|
|
|
Addasiadau SAAR: |
|
|
|
|
|
IAS16 |
(994) |
497 |
- |
- |
(497) |
IAS 19 |
(333) |
- |
- |
- |
(333) |
Cyfanswm addasiadau IFRS |
(1,327) |
497 |
- |
- |
(830) |
IFRS ar 31 Mawrth 2009 |
60,224 |
4,393 |
11 |
(1,967) |
62,661 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Datganiad Costau Gweithredu am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2009 wedi’i ailddatgan |
|||||
|
|
|
|
|
|
Gwariant net am y flwyddyn o dan UK GAAP |
|
|
|
44,369 |
|
Addasiadau ar gyfer: |
|
|
|
|
|
Addasiad IAS 16 |
|
|
|
· |
· 497 |
Addasiad IAS 19 |
|
|
|
· |
· 54 |
Cost addasiad cyfalaf |
|
|
|
· |
· (20) |
Gwariant net am y cyfnod o dan IFRS |
|
|
|
44,900 |
|
|
|
|
|
|
|
Datganiad Cyflenwad Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2009 wedi’i ailddatgan |
|||||
|
|
|
|
|
|
Cyfanswm alldro net am y flwyddyn o dan UK GAAP |
|
|
|
44,010 |
|
Addasiadau ar gyfer: |
|
|
|
|
|
Addasiad IAS 16 |
|
|
|
497 |
|
Addasiad IAS 19 |
|
|
|
54 |
|
Cost addasiadau Cyfalaf |
|
|
|
(20) |
|
Alldro net am y cyfnod o dan IFRS |
|
|
|
44,541 |
3. Dadansoddiad o’r alldro adnoddau net 2009-10
|
Alldro £000 |
Dadansoddiad o’r gyllideb a gymeradwywyd £000 |
Alldro o’i gymharu â’r Gyllideb £000 |
Alldro wedi’i ailddatgan 2008-09 £’000 |
Gwariant refeniw |
|
|
|
|
Cyflogau a lwfansau’r Aelodau a chostau cysylltiedig |
12,647 |
13,335 |
688 |
12,369 |
Cyflogau staff a chostau cysylltiedig |
13,921 |
13,900 |
(21) |
12,246 |
Costau teithio a chynhaliaeth staff |
135 |
210 |
75 |
159 |
Costau recriwtio/costau eraill Adnoddau Dynol |
205 |
176 |
(29) |
160 |
Costau TGCh |
3,618 |
3,878 |
260 |
4,017 |
Costau adeiladau a chyfleusterau |
7,696 |
7,169 |
(527) |
8,350 |
Costau hyfforddi a datblygu |
211 |
250 |
39 |
393 |
Codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth |
564 |
621 |
57 |
548 |
Costau gweinyddol eraill |
1,299 |
2,302 |
1,003 |
1,698 |
Dibrisiant a thaliadau llog tybiannol |
4,262 |
4,200 |
(62) |
4,448 |
Gwariant refeniw gros |
44,558 |
46,041 |
1,483 |
44,388 |
Incwm refeniw |
|
|
|
|
Gwerthiant – Siop y Cynulliad |
(18) |
(40) |
(22) |
(31) |
Rhentu eiddo |
(86) |
(90) |
(4) |
(76) |
Incwm amrywiol |
(7) |
(30) |
(23) |
- |
Incwm refeniw gros wedi’i gymhwyso |
(111) |
(160) |
(49) |
(107) |
GWARIANT REFENIW NET |
44,447 |
45,881 |
1,434 |
44, 281 |
|
|
|
|
|
GWARIANT CYFALAF – CREU ASEDAU SEFYDLOG |
4,405 |
3,820 |
(585) |
260 |
|
|
|
|
|
ALLDRO ADNODDAU NET |
48,852 |
49,701 |
849 |
44,541 |
Roedd yr alldro adnoddau net ar gyfer 2009-10 o fewn 1.7% i’r gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer y flwyddyn (3.7% yn 2008-09).
Eglurhad o’r amrywiadau arwyddocaol rhwng y gyllideb a’r alldro:
Cyflogau, lwfansau a chostau cysylltiedig: mae’r tanwariant i’w briodoli i’r ffaith bod costau teithio a chynhaliaeth Aelodau’r Cynulliad ynghyd â chostau eu lwfans swyddfa a’u lwfans costau ychwanegol, yn llai na’r disgwyl.
Costau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu: gohiriwyd dau brosiect tan 2010-11 ac ailddosbarthwyd prosiectau TGCh eraill fel gwariant cyfalaf gan greu’r gwarged.
Costau adeiladau a chyfleusterau: mae’r gorwariant i’w briodoli i’r ffaith bod costau gweinyddu’n ymwneud â chostau refeniw ailwampio’r Pierhead wedi’u hailddosbarthu.
Costau gweinyddol eraill: mae’r gwarged i’w briodoli i’r ffaith bod costau’r Pierhead wedi’u hailddosbarthu ac y bu llai o ddefnydd na’r disgwyl o gyllidebau sy’n seiliedig ar alw .
Gwariant cyfalaf: fel y nodir uchod, mae’r diffyg i’w briodoli i’r ffaith bod prosiectau TGCh wedi’u dosbarthu fel cyfalaf, gan leihau’r costau refeniw.
4. Cysoni’r alldro adnoddau â’r costau gweithredu net
|
Nodyn |
2009-10 £000 |
Wedi’i ailddatgan 2008-09 £’000 |
Alldro adnoddau net |
3 |
48,852 |
44,541 |
Gwariant cyfalaf |
9 a 10 |
(4,405) |
(260) |
Incwm taladwy i Gronfa Gyfunol Cymru |
6 |
- |
(16) |
Taliadau uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru |
|
636 |
635 |
Costau gweithredu net |
|
45,083 |
44,900 |
Costau cyflog y Llywydd, y Dirprwy Lywydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yw’r taliadau uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru, sef £636,091 (£634,642 yn 2008-09). Comisiwn y Cynulliad sy’n talu’r cyflogau hyn, ond gan eu bod yn cael eu talu’n uniongyrchol o’r Gronfa, nid ydynt yn cael eu cynnwys yn yr alldro adnoddau net.
5. Cysoni’r adnoddau net â’r gofyniad arian parod
|
Nodyn |
Cyllideb£’000 |
Alldro£’000 |
Cyfanswm alldro net o’i gymharu â’r gyllideb: arbedion/ (diffyg) £’000 |
Alldro wedi’i ailddatgan 2008-09 £’000 |
Alldro adnoddau |
3 |
49,701 |
48,852 |
849 |
44,541 |
Addasiadau i groniadau |
|
|
|
|
|
Eitemau heb fod yn arian parod |
Gweler isod |
(4,700) |
(4,518) |
(182) |
(4,752) |
Newidiadau mewn cyfalaf gweithio ar wahân i arian parod |
|
(700) |
(708) |
8 |
(1,765) |
Gofyniad arian parod net |
|
44,301 |
43,626 |
675 |
38,024 |
Eitemau heb fod yn arian parod |
Nodyn |
Cyllideb£’000 |
Alldro£’000 |
Alldro o’i gymharu â’r gyllideb 2009-10 £’000 |
Alldro wedi’i ailddatgan 2008-09 £’000 |
Dibrisiant ac amorteiddiad |
9 a 10 |
(1,700) |
(2,100) |
400 |
(2,164) |
Cost taliadau cyfalaf |
8 |
(2,500) |
(2,162) |
(338) |
(2,284) |
FRS 17 cost ariannu pensiynau a symudiadau eraill |
|
(500) |
(256) |
(244) |
(304) |
|
|
(4,700) |
(4,518) |
(182) |
(4,752) |
6. Dadansoddiad o’r incwm sy’n daladwy i Gronfa Gyfunol Cymru
|
|
Rhagolwg 2009-10 £’000 |
Alldro 2009-10 £’000 |
Alldro 2008-09 £’000 |
|
|
|
|
|
Incwm gweithredu y gellir ei gadw |
|
160 |
111 |
107 |
Incwm gweithredu na ellir ei gadw (llog banc) |
|
- |
- |
16 |
|
|
160 |
111 |
123 |
Swm yr awdurdodwyd i’w gadw |
|
(160) |
(111) |
(107) |
Swm sy’n daladwy i Gronfa Gyfunol Cymru |
|
- |
- |
16 |
7a. Costau’r Aelodau a staff a chostau cysylltiedig
Costau staff:
|
|
|
2009-10 £’000 |
Wedi’i ailddatgan 2008-09 £’000 |
|||
|
|
|
Staff |
Aelodau a Deiliaid Swyddi |
Total |
Total |
|
Cyflogau |
|
|
|
|
|
|
|
|
Staff, Aelodau a Deiliaid Swyddi |
10,827 |
4,380 |
15,207 |
13,595 |
||
|
Staff ar secondiad |
|
245 |
- |
245 |
350 |
|
Costau nawdd cymdeithasol |
|
|
|
|
|
||
|
Staff, Aelodau a Deiliaid Swyddi |
826 |
443 |
1,269 |
1,165 |
||
Costau pensiwn eraill |
|
|
|
|
|
||
|
Staff, Aelodau a Deiliaid Swyddi |
2,023 |
1,306 |
3,329 |
3,068 |
||
Cyfanswm costau cyflogau’r Aelodau, Deiliaid Swyddi a staff |
13,921 |
6,129 |
20,050 |
18,178 |
|||
Mae’r Comisiwn yn talu cyflogau a chostau cysylltiedig Gweinidogion Cymru, fel y nodir yr Adroddiad Taliadau yn y cyfrifon hyn. Caiff y symiau a delir i Weinidogion Cymru eu datgelu yng Nghyfrifon adnoddau cyfunol Llywodraeth Cymru.
Dyma nifer cyfartalog y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir gan y Comisiwn yn ystod y flwyddyn (gan gynnwys uwch reolwyr):
|
2009-10 |
2008-09 |
Staff parhaol |
339.0 |
301.2 |
Staff ar secondiad |
3.0 |
5.3 |
Staff dros dro/achlysurol |
7.0 |
13.7 |
Penodiadau am dymor penodol |
3.3 |
2.4 |
Cyfanswm |
352.3 |
322.6 |
Mae 60 o Aelodau’r Cynulliad. Ar ddiwedd y flwyddyn roedd 10 Deiliad Swydd (ar wahân i Weinidogion), 1 Prif Weinidog, 9 o Weinidogion Cymru, 3 Ddirprwy Weinidog, ac 1 Cwnsler Cyffredinol.
Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar aelod etholedig (gweler y Sylwadau Rheoli i gael rhagor o fanylion). O 1 Ebrill 2009, rhoddwyd tâl o £11,543 y flwyddyn i’r Comisiynydd (£11,372 y flwyddyn yn 1 Ebrill 2008). Mae holl uwch reolwyr a’r holl staff yn cael eu cyflogi gan y Comisiwn.
Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Prif Cynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir yw Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn ac felly ni all y Comisiwn nodi cyfran yr asedau a'r rhwymedigaethau sylfaenol sy'n berthnasol iddo. Cynhaliodd actiwari’r cynllun brisiad llawn o’r cynllun ar 31 Mawrth 2007. Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Pensiwn Sifil (www.civilservice-pensions.gov.uk).
Yn ystod 2009-10 roedd cyfraniadau’r cyflogwyr, sef £2.002m (£1.808m yn 2008-09) yn daladwy i’r PCSPS yn ôl un o bedair cyfradd rhwng 16.7% a 24.3% o dâl pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog (sy’n wahanol i fandiau cyflog 2008-09). Bydd actiwari’r cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr bob pedair blynedd yn dilyn proses brisio lawn. Pennir cyfraddau’r cyfraniadau i dalu cost y buddion a gronnwyd, yn hytrach na’r buddion a dalwyd, ac maent yn adlewyrchu profiadau’r cynllun yn y gorffennol.
Gall staff agor cyfrif pensiwn partneriaeth, pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Cyfrannodd y cyflogwyr £21,000 (£21,000 yn 2008-09), i ddarparwyr pensiwn cyfranddeiliaid penodedig. Mae cyfraniad y cyflogwr yn dibynnu ar oedran yr aelod ac mae’n amrywio o 7% i 15% o dâl pensiynadwy. Mae cyflogwyr hefyd yn talu swm sy’n cyfateb i gyfraniadau’r cyflogai hyd at 3% o dâl pensiynadwy. Yn ogystal â hyn, roedd cyfraniadau’r cyflogai o £1,100 (£1,000 2008-09) neu 0.8% o dâl pensiynadwy, yn daladwy i’r PCSPC i dalu cost buddion cyfandaliad yn y dyfodol os bydd y cyflogeion hyn yn marw mewn gwasanaeth neu’n ymddeol oherwydd salwch. Pan baratowyd y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol, roedd cyfraniadau o £1,800 (£1,000 yn 2008-09) yn ddyledus i ddarparwyr y pensiwn partneriaeth. Nid oedd unrhyw gyfraniadau wedi’u rhagdalu bryd hynny.
Nid ymddeolodd neb ar sail iechyd yn ystod y flwyddyn, a doedd dim rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn.
Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad
Mae cynllun pensiwn Aelodau’r Cynulliad yn darparu buddion yn seiliedig ar dâl pensiynadwy terfynol. Mae asedau’r cynllun yn cael eu cadw ar wahân i asedau Comisiwn y Cynulliad a phenodir Rheolwr Buddsoddiadau i’w rheoli. Cynhaliodd actiwari’r cynllun brisiad llawn o’r cynllun ar 31 Mawrth 2005 ac fe’i diweddarwyd ar 13 Mawrth 2008 gan actiwari annibynnol cymwysedig. Caiff y cynllun ei ariannu.
Y symiau a gydnabuwyd yn y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol:
|
31 Mawrth 2010 £’000 |
31 Mawrth 2009 £’000 |
|
|
|
Gwerth cyfredol rhwymedigaethau’r cynllun |
21,999 |
12,388 |
Gwerth teg asedau’r cynllun |
16,126 |
10,421 |
Rhwymedigaethau (gwarged) net |
5,873 |
1,967 |
|
|
|
Swm yn y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol |
|
|
Rhwymedigaethau |
5,873 |
1,967 |
Asedau |
|
|
Rhwymedigaeth net |
5,873 |
1,967 |
Y symiau a gydnabuwyd yn y costau gweithredu:
|
2009-10 £’000 |
2008-09 £’000 |
|
|
|
Cost gyfredol y gwasanaeth |
896 |
1,099 |
Cost y llog |
898 |
920 |
Enillion disgwyliedig ar asedau’r cynllun |
(552) |
(824) |
Cyfanswm y gost |
1,242 |
1,195 |
|
|
|
Dyrannwyd yn y cyfrifon fel a ganlyn: |
|
|
Costau eraill yn ymwneud â phensiynau (cyfraniadau’r Comisiwn) |
974 |
908 |
Cost ariannu pensiynau |
268 |
287 |
Cyfanswm y gost |
1,242 |
1,195 |
Symiau a gydnabyddir yn y Datganiad o Enillion a Cholledion cydnabyddedig:
|
2009-10 £’000 |
2008-09 £’000 |
|
|
|
Gwir enillion llai enillion disgwyliedig ar asedau’r cynllun |
3,799 |
(2,922) |
Addasiadau profiad ar rwymedigaethau’r cynllun |
251 |
100 |
Newidiadau mewn tybiaethau sy’n sail i werth presennol rhwymedigaethau’r cynllun |
(7,688) |
2,452 |
Cyfanswm (colledion) actiwarïaid a gydnabuwyd |
(3,638) |
(370) |
Newidiadau yng ngwerth presennol rhwymedigaethau’r cynllun:
|
31 Mawrth 2010 £’000 |
31 Mawrth 2009 £’000 |
|
|
|
Rhwymedigaeth agoriadol |
12,388 |
12,661 |
Cost gyfredol y gwasanaeth |
896 |
1,099 |
Cost y llog |
898 |
920 |
Cyfraniadau gan Aelodau’r Cynulliad (gan gynnwys trosglwyddiadau i mewn) |
548 |
405 |
Colledion/(enillion)actwaraidd |
7,437 |
(2,552) |
Buddion a dalwyd a threuliau |
(168) |
(145) |
Rhwymedigaethau wrth gau’r cyfrifon |
21,999 |
12,388 |
Newidiadau yng ngwerth teg asedau’r cynllun:
|
31 Mawrth 2010 £’000 |
31 Mawrth 2009 £’000 |
|
|
|
Gwerth teg asedau’r cynllun |
10,421 |
11,351 |
Enillion disgwyliedig ar asedau’r cynllun |
552 |
824 |
Enillion (colledion) actiwarïaid |
3,799 |
(2,922) |
Cyfraniadau gan Gomisiwn y Cynulliad |
974 |
908 |
Cyfraniadau gan Aelodau’r Cynulliad (gan gynnwys trosglwyddiadau i mewn) |
548 |
405 |
Buddion a dalwyd a threuliau |
(168) |
(145) |
Gwerth teg asedau’r cynllun wrth gau’r cyfrifon |
16,126 |
10,421 |
Mae’r Comisiwn yn disgwyl cyfrannu £988,135 at Gynllun Pensiwn yr Aelodau yn ystod 2010-11.
Dyma brif gategorïau asedau’r cynllun fel canran o holl asedau’r cynllun:
|
2009-10 |
2008-09 |
|
|
|
Ecwitïau |
82% |
60% |
Bondiau |
14% |
19% |
Arian parod |
4% |
21% |
Nid yw asedau’r cynllun yn cynnwys unrhyw eiddo’n uniongyrchol na’n anuniongyrchol. Mae asedau’r cynllun yn cynnwys, yn anuniongyrchol drwy fuddsoddi mewn cronfeydd cyfunol, giltiau a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU a chanddynt werth teg o £1,289,990
Yr enillion disgwyliedig ar ecwitïau yw 3% y flwyddyn yn uwch na’r elw ar giltiau ar ddyddiad cyflwyno’r adroddiad hwn. Yr adenillion disgwyliedig ar fondiau yw’r elw adbrynu ar y bondiau y mae’r cynllun yn eu dal (yn uniongyrchol) ar ddyddiad cyflwyno’r adroddiad hwn. Yr enillion disgwyliedig ar arian parod yw’r amcangyfrif gorau o’r enillion arian parod hirdymor, gan gymryd y bydd cyfraddau llog yn cyd-fynd â’r cynnyrch sydd ar gael ar giltiau.
Y gwir enillion ar asedau’r cynllun yn 2009-10 oedd elw o £4.35 miliwn (colled o £2.1 miliwn yn 2008-09).
Y prif dybiaethau actiwarïaid ar ddyddiad paratoi’r Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol:
|
31 Mawrth 2010 |
31 Mawrth 2009 |
Cyfradd gostyngiad |
5.8% |
6.9% |
Cynnydd mewn cyflogau yn y dyfodol |
5.4% |
4.5% |
Cynnydd mewn pensiynau yn y dyfodol |
3.9% |
3.0% |
Cyfradd adennill ddisgwyliedig ar ecwitïau |
7.4% |
6.7% |
Cyfradd adennill ddisgwyliedig ar fondiau |
4.3% |
4.5% |
Cyfradd adennill ddisgwyliedig ar arian parod |
4.4% |
0.5% |
Hyd oes ddisgwyliedig ar ôl 65 oed (blynyddoedd) |
|
|
Dynion |
26.0 |
25.6 |
Merched |
29.1 |
28.6 |
Y symiau ar gyfer y cyfnod cyfredol a’r pedwar cyfnod blaenorol:
|
31 Mawrth 2010 £’000 |
31 Mawrth 2009 £’000 |
31 Mawrth 2008 £’000 |
31 Mawrth 2007 £’000 |
31 Mawrth 2006 £’000 |
|
|
|
|
|
|
Rhwymedigaeth buddion diffiniedig |
21,999 |
12,388 |
12,661 |
12,859 |
8,951 |
Asedau’r cynllun |
16,126 |
10,421 |
11,351 |
10,273 |
8,984 |
Gwarged/(diffyg) |
(5,873) |
(1,967) |
(1,310) |
(2,586) |
33 |
Addasiadau profiad ar rwymedigaethau’r cynllun |
251 |
100 |
Nil |
(22) |
Nil |
Addasiadau profiad ar asedau’r cynllun |
3,799 |
(2,922) |
(840) |
(171) |
1,657 |
|
|
|
|
|
|
Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad ar gael yn adroddiad blynyddol a chyfrifon y cynllun am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2010.
7b. Costau eraill yr Aelodau
Mae Costau Eraill yr Aelodau, sef £7.154 miliwn (£7.072 miliwn yn 2008-09), yn y datganiad costau gweithredu yn cynnwys:
|
2009-10 £’000 |
Wedi’i ailddatgan 2008-09 £’000 |
Lwfans Costau Swyddfa |
702 |
753 |
Lwfans Costau Ychwanegol |
259 |
415 |
Lwfans Costau Staff yr Aelodau |
5,978 |
5,615 |
Costau teithio |
215 |
289 |
Cyfanswm costau eraill yr Aelodau |
7,154 |
7,072 |
8. Costau gweinyddol eraill
Mae costau gweinyddol eraill, gwerth £17.990m (£19.773 miliwn yn 2008-09) yn y datganiad costau gweithredu’n cynnwys:
|
2009-10 £’000 |
Wedi’i ailddatgan 2008-09 £’000 |
Adeiladau a chyfleusterau |
5,459 |
6,095 |
Rhenti o dan brydlesi gweithredu |
2,237 |
2,255 |
Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu |
3,618 |
4,017 |
Codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth |
564 |
548 |
Hyfforddi a datblygu staff |
211 |
393 |
Costau Adnoddau Dynol/recriwtio eraill |
205 |
160 |
Costau teithio a chynhaliaeth staff |
135 |
159 |
Costau gweinyddol eraill |
1,299 |
1,698 |
Eitemau heb fod yn arian parod |
|
|
Dibrisiant ac amorteiddiad |
|
|
Addasiadau gwerth teg mewn asedau sefydlog |
2,100 |
2,164 |
Cost taliadau cyfalaf |
2,162 |
2,284 |
Cyfanswm y costau gweinyddol eraill |
17,990 |
19,773 |
Cytunwyd mai £61,400 (£57,950 yn 2008-09) fyddai’r gost o archwilio’r datganiadau hyn yn allanol. Yn ogystal â hyn, roedd cost o £4,400 (£5,525 yn 2008-09) am waith archwilio anstatudol.
9. Eiddo, offer a chyfarpar
|
Tir ac adeiladau |
Technoleg gwybodaeth |
Dodrefn a gosodiadau* |
Cerbydau |
Asedau sy’n cael eu hadeiladu |
2009-10 £’000Cyfanswm |
Cost neu brisiad |
|
|
|
|
|
|
Ar 1 Ebrill 2009 |
65,731 |
7,521 |
1,034 |
121 |
- |
74,407 |
Ychwanegiadau |
590 |
129 |
76 |
- |
3,238 |
4,033 |
Gwerthwyd |
- |
- |
- |
(41) |
- |
(41) |
Ailbrisiwyd |
- |
- |
- |
- |
- |
- |
Ar 31 Mawrth 2010 |
66,321 |
7,650 |
1,110 |
80 |
3,238 |
78,399 |
|
|
|
|
|
|
|
Dibrisiant |
|
|
|
|
|
|
Ar 1 Ebrill 2009 |
3,948 |
1,923 |
398 |
41 |
- |
6,310 |
Costau yn ystod y flwyddyn |
1,164 |
776 |
110 |
16 |
- |
2,066 |
Gwerthwyd |
- |
- |
- |
(41) |
- |
(41) |
Ailbrisiwyd |
- |
- |
- |
- |
- |
- |
Ar 31 Mawrth 2010 |
5,112 |
2,699 |
508 |
16 |
- |
8,335 |
Gwerth llyfr net ar ar 31 Mawrth 2010 |
61,209 |
4,951 |
602 |
64 |
3,238 |
70,064 |
Gwerth llyfr net ar 1 Ebrill 2009 |
61,783 |
5,598 |
636 |
80 |
- |
68,097 |
* Mae dodrefn a gosodiadau yn cynnwys ‘asedau a gafwyd yn rhodd’, gan gynnwys y Byrllysg a gyflwynwyd gan Senedd De Cymru Newydd pan agorwyd y Senedd
|
Tir ac adeiladau |
Technoleg gwybodaeth |
Dodrefn a gosodiadau* |
Cerbydau |
Asedau sy’n cael eu hadeiladu |
Wedi’i ailddatgan 2008-09 £’000 Cyfanswm |
Cost neu brisiad |
|
|
|
|
|
|
Ar 1 Ebrill 2008 |
65,731 |
7,492 |
883 |
41 |
- |
74,147 |
Ychwanegiadau |
- |
29 |
151 |
80 |
- |
260 |
Gwerthwyd |
- |
- |
- |
- |
- |
- |
Ailbrisiwyd |
- |
- |
- |
- |
- |
- |
Ar 31 Mawrth 2009 |
65,731 |
7,521 |
1,034 |
121 |
- |
74,407 |
|
|
|
|
|
|
|
Dibrisiant |
|
|
|
|
|
|
Ar 1 Ebrill 2008 |
2,706 |
1,149 |
295 |
31 |
- |
4,181 |
Costau yn ystod y flwyddyn |
1,242 |
774 |
103 |
10 |
- |
2,129 |
Gwerthwyd |
- |
- |
- |
- |
- |
- |
Ailbrisiwyd |
- |
- |
- |
- |
- |
- |
Ar 31 Mawrth 2009 |
3,948 |
1,923 |
398 |
41 |
- |
6,310 |
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2009 |
61,783 |
5,598 |
636 |
80 |
- |
68,097 |
Gwerth llyfr net ar 1 Ebrill 2008 |
63,025 |
6,343 |
588 |
10 |
- |
69,966 |
Mae’r asedau tir ac adeiladau’n cynnwys y Senedd a’r Pierhead. Caiff y ddau ased hwn eu prisio gan briswyr cymwysedig proffesiynol bob tair blynedd a chânt eu hadolygu i ystyried amhariad. Cânt eu prisio’n unol â nodiadau canllaw Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.
DS Gibbon FRICS o GVA Grimley International Property Advisers ailbrisiodd yr asedau hyn. Ail-brisiwyd y Pierhead yn ôl ei werth ar 31 Mawrth 2009. Ail-brisiwyd adeilad y Senedd yn ôl ei werth ar 31 Mawrth 2008.
Gan mai adeiladau arbenigol yw’r rhain, cawsant eu prisio i adlewyrchu’r gost o’u hadnewyddu ar ôl eu dibrisio.
Ni chaiff yr asedau eraill eu hailbrisio, gan nad yw’r symiau dan sylw’n arwyddocaol.
10. Asedau anniriaethol
Mae’r asedau anniriaethol yn cynnwys meddalwedd a thrwyddedau meddalwedd ar gyfer y prif systemau a ddefnyddir gan y Comisiwn:
|
2010 Cyfanswm £’000 |
Cost neu brisiad |
|
Ar 1 Ebrill 2009 |
172 |
Ychwanegiadau |
372 |
Gwerthwyd |
- |
Ailbrisiwyd |
- |
Ar 31 Mawrth 2010 |
544 |
Amorteiddiad |
|
Ar 1 Ebrill 2009 |
69 |
Costau yn ystod y flwyddyn |
34 |
Ar 31 Mawrth 2010 |
103 |
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2010 |
441 |
Gwerth llyfr net ar 1 Ebrill 2009 |
103 |
|
2009 Cyfanswm £’000 |
Cost neu brisiad |
|
Ar 1 Ebrill 2008 |
172 |
Ychwanegiadau |
- |
Gwerthwyd |
- |
Ailbrisiwyd |
- |
Ar 31 Mawrth 2009 |
172 |
Amorteiddiad |
|
Ar 1 Ebrill 2008 |
34 |
Costau yn ystod y flwyddyn |
35 |
Ar 31 Mawrth 2009 |
69 |
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2009 |
103 |
Gwerth llyfr net ar 1 Ebrill 2008 |
138 |
11. Stoc
|
31 Mawrth 2010 |
Wedi’i ailddatgan31 March 2009 |
Wedi’i ailddatgan1 Ebrill 2008 |
|
£’000 |
£’000 |
£’000 |
Stoc Siop y Cynulliad |
27 |
27 |